dcsimg

Ymlusgiad ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Anifeiliaid asgwrn-cefn gwaed oer gyda chroen cennog yw ymlusgiaid.

Mae ymlusgiaid ar pob cyfandir heblaw am Antarctica er fod mwyafrif ohonyn yn byw mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol. Mae tymheredd eu cyrff yn newid ac felly maen nhw'n dibynnu ar dymheredd yr amgylchedd. Mae'r mwyafrif o rywogaethau'n gigysol ac yn ofiparol (hy maen nhw'n dodwy wyau).

Fideo o'r Madfall ddŵr gribog yng Nghymru

Mae ymlusgiaid modern yn perthyn i'r urddau canlynol:

Cymru

Pump rhywogaeth o ymlusgiaid sy'n frodorol i Gymry: dwy neidr, a thair madfall. Mae'r neidr wair (Natrix natrix) yn weddol eang ei dosbarthiad a'r wiber (Vipera berus) wenwynig yn fwy arfordirol. Ceir llawer o gyfeiriadau llên gwerin at wiberod, e.e. eu gallu i rowlio'n gylch, fel olwyn, i lawr allt. Credir fod 'Gwiber Penhesgyn' yn fath o ddraig neu sarff anferth reibus chwedlonol (Môn).

Mae'r neidr ddefaid (Anguis fragilis) yn fadfall ddi-goes a'r madfall cyffredin (Lacerta lacerta), yn eang eu dosbarthiad. Ceir llawer o enwau lleol ar y madfall cyffredin, e.e. cena pry gwirion (Llŷn), Galapi wirion (Môn), gena goeg (Clwyd), motrywilen a botrywilen (Dyfed). Collwyd madfall y tywod (L. agilis) o Gymru am gyfnod byr ar ddiwedd yr 20g, ond fe'i hailgyflwynwyd i safleoedd addas.

Cofnodwyd crwbanod môr ar draethau Cymru yn achlysurol, yn cynnwys y crwban môr cefn-lledr (Dermochelys coriacea) anferth ar Forfa Harlech yn 1988 a arddangosir bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.



license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Ymlusgiad: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Anifeiliaid asgwrn-cefn gwaed oer gyda chroen cennog yw ymlusgiaid.

Mae ymlusgiaid ar pob cyfandir heblaw am Antarctica er fod mwyafrif ohonyn yn byw mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol. Mae tymheredd eu cyrff yn newid ac felly maen nhw'n dibynnu ar dymheredd yr amgylchedd. Mae'r mwyafrif o rywogaethau'n gigysol ac yn ofiparol (hy maen nhw'n dodwy wyau).

Fideo o'r Madfall ddŵr gribog yng Nghymru

Mae ymlusgiaid modern yn perthyn i'r urddau canlynol:

Crocodilia (crocodeilod ac aligatoriaid): 23 rhywogaeth Sphenodontida (twataraid o Seland Newydd): 2 rhywogaeth Squamata (madfallod, nadroedd ac amwiboniaid): tua 7,600 rhywogaeth Testudines (crwbanod): tua 300 rhywogaeth
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY