Planhigyn blodeuol lluosflwydd o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Marchysgallen y Gerddi sy'n enw benywaidd ac yn fath o ysgallen a dyfir ar gyfer y bwrdd bwyd i'w fwyta fel llysieuyn. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cynara cardunculus a'r enw Saesneg yw Globe artichoke.[1] Mae'n tyfu hyd at 1.4–2 m (4.6–6.6 tr) o uchder, gyda dail crwm, arian, tal, sydd rhwng 50–82 cm (20–32 mod). Datblyga'r blodyn mewn pelen fechan, a dyma'r rhan a gaiff ei fwyta; mae'n 8–15 cm (3.1–5.9 mod) mewn diametr gyda rhannau trionglog (cenynnau) drosto a blodau porffor.
Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.
Planhigyn blodeuol lluosflwydd o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy Marchysgallen y Gerddi sy'n enw benywaidd ac yn fath o ysgallen a dyfir ar gyfer y bwrdd bwyd i'w fwyta fel llysieuyn. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cynara cardunculus a'r enw Saesneg yw Globe artichoke. Mae'n tyfu hyd at 1.4–2 m (4.6–6.6 tr) o uchder, gyda dail crwm, arian, tal, sydd rhwng 50–82 cm (20–32 mod). Datblyga'r blodyn mewn pelen fechan, a dyma'r rhan a gaiff ei fwyta; mae'n 8–15 cm (3.1–5.9 mod) mewn diametr gyda rhannau trionglog (cenynnau) drosto a blodau porffor.
Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.