Hwyaden sy'n byw o gwmpas yr arfordir yw Môr-hwyaden y Gogledd (Melanitta fusca). Mae'n nythu yng ngogledd Ewrop ac Asia. Ystyrir y ffurf yng Ngogledd America a dwyrain Asia yn rhywogaeth wahanol (Môr-hwyaden Adeinwen, Melanitta deglandi) yn aml. Dim ond y ceiliog sy'n ddu, tra mae'r iâr yn frown. Gellir gwahaniaethu rhwng y rhywogaeth yma a'r Fôr-hwyaden Ddu yn hawdd os gellir gweld y darn gwyn sydd ar adain Môr-hwyaden y Gogledd ond sy'n absennol yn y Fôr-hwyaden Ddu. Mae Môr-hwyaden y Gogledd hefyd yn aderyn mwy.
Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de. Nid yw'n aderyn cyffredin yng Nghymru, ond gellir gweld ambell un yng nghanol y niferoedd llawer mwy o'r Fôr-hwyaden Ddu sy'n gaeafu ger yr arfordir yn y gaeaf.
Hwyaden sy'n byw o gwmpas yr arfordir yw Môr-hwyaden y Gogledd (Melanitta fusca). Mae'n nythu yng ngogledd Ewrop ac Asia. Ystyrir y ffurf yng Ngogledd America a dwyrain Asia yn rhywogaeth wahanol (Môr-hwyaden Adeinwen, Melanitta deglandi) yn aml. Dim ond y ceiliog sy'n ddu, tra mae'r iâr yn frown. Gellir gwahaniaethu rhwng y rhywogaeth yma a'r Fôr-hwyaden Ddu yn hawdd os gellir gweld y darn gwyn sydd ar adain Môr-hwyaden y Gogledd ond sy'n absennol yn y Fôr-hwyaden Ddu. Mae Môr-hwyaden y Gogledd hefyd yn aderyn mwy.
Melanitta fuscaYn y gaeaf, mae'n symud tua'r de. Nid yw'n aderyn cyffredin yng Nghymru, ond gellir gweld ambell un yng nghanol y niferoedd llawer mwy o'r Fôr-hwyaden Ddu sy'n gaeafu ger yr arfordir yn y gaeaf.