Planhigyn blodeuol parhaol ydy Llygad Ebrill (neu Dail Peils[1]) (Lladin: Ranunculus ficaria; Saesneg: Lesser Celandine) gyda dail trwchus siap calon a blodyn melyn sy'n colli ei liw ar ôl ychydig amser. Mae'n tyfu fel chwynyn mewn gerddi drwy Ewrop a bellach gogledd America hefyd ac yn hoff o dir tamp, llwm.
Blodeua ym Mawrth ac Ebrill. Mae'n perthyn i'r un teulu â blodyn menyn (Ranunculaceae) ac felly ni ddylid ei fwyta, gan ei fod yn wenwynig.
Blodau melyn sgleiniog a dail ar ffurf calonnau, yn tyfu'n dusw isel. Cloron hirgrwn brown yn tyfu ar flaenau amryw o'r gwraidd. I'w gweld o Fawrth i Fai.
Ar lawr hen goedwig gollddail, gwrychoedd a glannau afonydd, yn enwedig os yw'r pridd ychydig yn llaith.
Mae'n adnabyddus bod y blodau, fel arfer, yn wynebu'r haul ac yn ei ddilyn yn ystod y dydd. Yn fwy na hynny, deellir bod ffurf cwpanog y blodyn, a'i betalau sgleiniog sydd fel cychod bychain hirfain, yn gweithredu fel drych parabolig sy'n gallu dal ac adlewyrchu pelydrau'r haul i ganol y blodyn. Mae hyn yn addasiad effeithiol i grynhoi a gwneud y gorau o wres a goleuni ar adeg pan fo'r dyddiau'n fyrach a'r haul yn wanach na chyfnodau mwy ffafriol o'r flwyddyn (oni allai hyn esbonio paham fo cynifer o flodau'r gwanwyn yn felyn?).
Yn arwydd adnabyddus o'r Gwanwyn. Amryw o'i enwau yn cyfeirio at y Gwanwyn - sef tymor ei flodau.
Yr enw "milfyw" a chyfeiriadau eraill at wartheg yn ei enwau yn nodi y byddai ei ymddangosiad yn arwydd o ddyfodiad y Gwanwyn ac y byddai'r anifeiliaid fyw. [Gweler y defnydd o'r enw hwn, ynghyd a'r un goel, yn achos yr hesgen fach ''Luzula campestris''.
Cyfeiria'r dywediad "Tridiau deryn du a dau Lygad Ebrill" at dri diwrnod olaf Mawrth a dau ddiwrnod cynta Ebrill - sef y cyfnod delfrydol i hau ceirch.
Enw Safonol Cymraeg: Llygad Ebrill
Enw Lladin: Ranunculus ficaria (L.): [ranunculus = llyffant/broga bychan - yn gyfeiriad mae'n debyg at natur "amffibiaidd" amryw o'r teulu; ficaria = ffigysen fechan - yn cyfeirio at y cnapiau (cloron) hirgrwn nodweddiadol ar y gwraidd].
Blodau Menyn (Maldwyn, Ceredigion), Aur bach y Gwanwyn, Llygad y Gwanwyn (Morgannwg), Melyn y Gwanwyn, Mil Melyn y Gwanwyn (Meirion), Seren y Gwanwyn, Bronwys, Bronwys Melyn y Gwanwyn, Bronwst, Llysiau'r Bronnau, Gwenith y Ddaear, Gwenith y Gog, Llym y Llygaid (Arfon), Llygad Dyniawed, Blodyn Llo Bach (Arfon), Milfyw (Arfon, Meirion, Ceredigion), Dail Peils (Arfon, Ceredigion), Llysiau'r Peils (Dinbych), Blodau'r Peils (Penfro)[2],[3].
Yn Llysieulyfr Meddyginiaethol William Salesbury, Gol.E.S Roberts (1916), tud. 243, rhestrir ei enwau fel a ganlyn: "y vronwys y vilfyw, nei melyn y gwanwyn yn Cambraec." Ceir "y fioled fraith" ymysg yr enwau a restrir gan D.T. Jones yn ei Lysieulyfr Teuluaidd, (Caernarfon, 18..) tud. 268, ond dichon mai parhad o gamddehongliad gan awduron cynharach o ddisgrifiad sy'n fwy perthnasol i Viola tricolor geir yma.
Amryw yn cyfeirio at ei liw a'i dymor. Tebyg bod yr elfen "gwenith" mewn rhai enwau yn cyfeirio at y bylbynnau bychain a gynhyrchir yn y blodyn ar ddiwedd y tymor blodeuo. Mae y rhain yn ymdebygu i rawn gwenith ac yn fodd i'r planhigyn atgynhyrchu ac ymledu'n llystyfol.
"Bronwst" a "peils" yn cyfeirio at ei ddefnyddiau meddyginiaethol. "Milfyw" yn enw canoloesol ac yn arwyddo y byddai ei ymddangosiad yn arwyddo y byddai'r anifeiliaid fyw (yr enw yn gysylltiedig bellach a Luzula campestris, gw. isod).
Ceir "Llym y llygaid" yn enw hefyd ar y Melynllys (Chelidonium majus). Yn Saesneg ceir cryn gymysgedd enwau rhwng C.majus - Greater Celandine, a R. ficaria - Lesser Celandine gyda'r "celandine" yn y ddau achos yn tarddu o Chelidon - y wennol.
Dyma ffefryn William Wordsworth! Sgwennodd amdano sawl tro:
Ceir disgrifiadau lliwgar iawn o'r Llygad Ebrill gan Richard Morgan yn ei Lyfr Blodau, Y Gyfrol Gyntaf (1909):
Defnyddir y blodyn i wnued powltis i drin cornwyd a gwarrau ystyfnig[4] a defnyddir gweddill y planhigyn (blagur, gwreiddyn a dail i atal llid (antiinflammatory) ac i wella diffyg traul.[5]. Dywed rhai ei fod hefyd yn gymorth i wella clwy'r marchogion,[6] fel yr awgryma'r hen enw Cymraeg, sef 'dail peils'.
Sonia'r Herald Cymraeg (3 Medi 2008), "fod Elizabeth Roberts, Penrhyndeudraeth yn ei llythyr yn cyfeirio at ei mam, Mary Thomas o Forfa Nefyn, oedd yn defnyddio planhigion meddyginiaethol. Roedd yn ddiddorol ei bod yn defnyddio llygad Ebrill fel un o’r planhigion i drin clwy’r marchogion."
Cyfeiria William Salesbury at ei rinweddau, yn ei lawysgrif o'r 16g, fel a ganlyn: "Nerth blaendost sy yntho ag e bair it croen vchaf chwsigenny da ydyw rhac y grammen a rhac lepr. / E ddodir yn y phroenae y suc a wescir or gwraidd gyd a mel er mwyn carthy yr penn. / Ar yn phynyt y certhir yn phynnedig y penn ar cylla a ei iscell gyd a mel anyd ei gargareisio nei olchi y mwnwgl." [7], (ond geiriau Dioscorides, De Historum Stirpium, L. Fuchs ydynt).
Tardda brif ddefnydd meddyginiaethol Salesbury o'r hen goel ganoloesol: "Athrawiaeth yr Arwyddnodau", pan ystyriwyd bod tebygrwydd gweladwy rhwng y cloron tanddaearol a symptomau Clwy y Marchogion, neu'r Peils. Canfyddwyd bod eli o gloron pwyedig gwraidd Llygad Ebrill (mewn menyn gwyrf yn wreiddiol) yn effeithiol i leihau'r symptomau - sydd yn un o'r ychydig enghreifftiau cydnabyddedig o effeithiolrwydd yr Athrawiaeth. Erbyn hyn canfyddwyd bod cemegau ynddo sy'n gallu lleihau chwydd mewn gwythien (vasoconstrictors) ac mai y rheiny yw'r elfennau gweithredol.
Dywed D.T. Jones, Llanllyfni yn ei Lysieulyfr Teuluaidd (18..): "Y maent yn rhagorol o dda yn y peils pan y b'ont yn tori allan yn dethi neu yn gnapiau, trwy eu hel, sef y dail a'r gwraidd, a'u cnocio a'u berwi mewn ymenyn gwyrdd hyd nes y b'ont wedi crebychu, gan eu streinio trwy liain, a'u cadw yn eli i iro y peils, ac yn fynych fe a'ch gwellha yn fuan." Dywed R. Price ac E. Griffiths (1890)[8] ar gyfer yr un anhwylder: "Os bydd y dolur poenus hwn yn fewnol, gwell yw yfed tê cryf o hono; ond os bydd yr anhwyldeb yn allanol, gwell pwyo y gwraidd a'r dail, a'u berwi mewn ymenyn heb halen, nes y byddont yn eli gwyrdd, a'i hidlo, ac eneinio y lle ag ef."
Hefyd, gweithia y llysieuyn hwn yn rymus yn ffordd y dwfr, a glanha yr arenau a'r bledren o bob graian a rhwystrau; ac mae'n oeri unrhyw fflamegau yn y rhanau hyny.[9].
Ddegau o weithiau, pan yn hogyn, y bum yn casgu'r dail, i'w rhoi mewn diod dail poethion (nettle beer), - hen ddiod iachus, o aml i ddalen dda, y dylid gwneud llawer mwy ohoni nag a wneir yn bresennol."[10].
Yn ôl Ann Elizabeth Williams (2017) y feddyginiaeth lysieuol fwyaf cyffredin at glwy'r marchogion (peils) oedd eli a wneid o'r planhigyn llygad Ebrill, neu ddail peils fel y'i gelwid weithiau. Gwreiddiau'r planhigyn, ynghyd â'r dail ambell waith, a ddefnyddid fel rheol i wneud yr eli. Golchai Mrs Elin Jane Hatton o Langernyw y gwreiddiau a'u sychu, yna eu mwtro a'u berwi ynghyd â'r dail mewn menyn. Deuai pobl yr ardal ati i gael yr eli hwn. Cafwyd tystiolaeth hefyd y gwneid eli â'r blodau a'r coesau yn hytrach na'r gwreiddiau, ond nid oedd yr arfer hwn mor gyffredin. Arfer arall oedd berwi'r gwreiddiau neu roi dŵr berwedig am eu pen ac yfed y trwyth.
Mae llygad Ebrill yn feddyginiaeth gydnabyddedig at glwy'r marchogion a soniodd gwr o Lanrhian fel y bu i gyfaill iddo, a ddioddefai o'r anhwylder, anfon i ffwrdd i Lundain at gwmni a oedd yn gwerthu meddyginiaethau llysieuol i ofyn am feddyginiaeth, ac fel y bu i'r cwmni anfon cyflenwad o'r llysiau iddo. Mae poblogrwydd llygad Ebrill fel meddyginiaeth at glwy'r marchogion yn cael ei briodoli'n aml i athrawiaeth yr arwyddnodau, sy'n honni bod pob planhigyn yn meddu ar ryw nodwedd neu'i gilydd sy'n dynodi pa afiechyd mae'n ei wella. Gan fod gwreiddiau'r llygad Ebrill yn ymdebygu i'r lledewigwst, roedd y planhigyn felly yn addas ar gyfer trin yr anhwylder. Daethai'r planhigyn yn feddyginiaeth boblogaidd at glwy'r marchogion, a byddai pobl wedi sylwi ar y tebygrwydd rhwng y gwreiddiau a'r anhwylder, a daeth hyn yn fodd i'w hatgoffa o'r defnydd a wneid ohono[11]
Arferion Plant: Am ei fod yn aelod o deulu'r Blodyn Menyn byddai plant yn ei ddefnyddio yn yr un modd - yn dal y blodyn melyn o dan yr en, ac os ceid adlewyrchiad melyn ar y croen byddai'n dangos bod perchen y croen yn hoffi menyn!
Yn ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban, ystyrid y gloren yn debyg i deth buwch a lliw'r blodyn i hufen. Cesglid clwstwr o bedair cloren yn cyfateb i bwrs y fuwch - a'u gosod yn y beudy fel swyn i gynyddu llaeth y gwartheg. [Grigson, G., The Englishman's Flora (1958), tud.51].
Planhigyn blodeuol parhaol ydy Llygad Ebrill (neu Dail Peils) (Lladin: Ranunculus ficaria; Saesneg: Lesser Celandine) gyda dail trwchus siap calon a blodyn melyn sy'n colli ei liw ar ôl ychydig amser. Mae'n tyfu fel chwynyn mewn gerddi drwy Ewrop a bellach gogledd America hefyd ac yn hoff o dir tamp, llwm.
Blodeua ym Mawrth ac Ebrill. Mae'n perthyn i'r un teulu â blodyn menyn (Ranunculaceae) ac felly ni ddylid ei fwyta, gan ei fod yn wenwynig.