dcsimg

Turtur dorchog ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src=
Ŵy Streptopelia decaocto

Mae'r Durtur Dorchog (Streptopelia decaocto) yn aderyn sydd â hanes diddorol iawn. Yn wreiddiol yr oedd i'w chael yn y gwledydd rhwng de-ddwyrain Ewrop a Japan, ond tua dechrau'r ugeinfed ganrif dechreuodd wladychu ardaloedd newydd. Erbyn diwedd y 1950au yr oedd wedi cyrraedd gwledydd Prydain, ac yn fuan wedyn Iwerddon. Yn Sgandinafia mae'n nythu ymhell i'r gogledd erbyn hyn.

Ymddengys i'r Durtur Dorchog gyrraedd y Bahamas trwy ddamwain, ac oddi yno lledaenodd i Florida ac erbyn hyn i ran helaeth o Unol Daleithiau America. Un yn ymgartrefu'n hawdd mewn unrhyw leoliad. Nid yw'n aderyn mudol, er y gellir gweld symudiadau weithiau, yn enwedig mewn tywydd oer.

Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy ar y tro. Gall nythu nifer o weithiau mewn blwyddyn. Gellir gweld yr aderyn yma o gwmpas gerddi yn aml iawn, ac mae'n medru bod yn ddof iawn. Mae'n golomen weddol fychan, gyda phlu llwyd golau, a gwyn ar flaen y gynffon. Daw'r enw o'r hanner coler ddu ar y gwegil.

Yn y gaeaf gall cryn nifer o adar gasglu yn haid, yn enwedig lle mae digonedd o fwyd ar gael.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY