dcsimg

Cwtiad torchog ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src=
Charadrius hiaticula

Mae'r Cwtiad Torchog (Charadrius hiaticula) yn aelod o deulu'r rhydyddion sy'n nythu trwy'r rhan fwyaf o ogledd Ewrop ac Asia a gogledd-ddwyrain Canada.

Mae ganddo gefn brownllwyd, bol gwyn a bron wen gyda thorch ddu ar ei thraws. Mae ganddo ddu o gwmpas y llygaid a chap brown, gyda gwyn ar y talcen. Gellir gwahaniaethu rhyngddo a'r Cwtiad Torchog Bach, sy'n debyg iawn, trwy fod y Cwtiad Torchog ychydig yn fwy (17-19.5 cm o hyd a 35–41 cm ar draws yr adenydd) ac nad oes ganddo linell felen yn amgylchynu'r llygad na llinell wen ar y talcen rhwng y du a'r brown.

Yn wahanol i'r Cwtiad Torchog Bach, sydd fel rheol yn nythu ger dŵr croyw, mae'r Cwtiad Torchog yn nythu ar y traethau ran amlaf, er fod rhai yn nythu ymhell o'r môr. Mae'n nythu ar dir agored, ac os oes perygl yn agos, er enghraifft Llwynog mae'r oedolion weithiau yn cymeryd arnynt eu bod wedi torri adain i geisio ei ddenu ymhellach o'r nyth.

Mae'r adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf, rhai cyn belled ag Affrica ond mae'r adar sy'n nythu ymhellach i'r de yn sefydlog fel rheol. Yn y gaeaf maent yn bwwydo ar y traethau.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY