Mamal cigysol o deulu'r carlymfilod (Mustelidae), sef teulu'r wenci a'r carlwm, yw'r ffwlbart (lluosog: 'ffwlbartiaid', Lladin: Mustela putorius). Fe'i ceir yng nghoedydd, ffermdiroedd a gwlyptiroedd ar draws Ewrop. Mae'n bwydo ar gwningod, cnofilod, llyffantod a thrychfilod. Dyma un o hynafiad gwyllt y ffured dof.
Mae ei gorff a'i ben yn 20–46 cm o hyd ac mae ei gynffon yn 7–15 cm. Brown tywyll yw lliw ei flew gyda blew melyn ar ei ystlysau a phatrwm du a gwyn trawiadol ar ei wyneb. Mae'n greadur swil iawn ac i'w weld allan yn y nos. Mae'n nofiwr cryf ac yn gallu dal pysgod ond mamaliaid bychain yw ei hoff fwyd.
Roedd y ffwlbart (Mustela putorius) yn gyffredin trwy Brydain ar un adeg ond erbyn dechrau'r 20g yn gyfyngedig i Eryri a Chanolbarth Cymru. Wrth i gipera leihau o'r 1920au, a thrapio cwningod leihau o'r 1950au, cynyddodd yn gyflym. Goroesodd y rhywogaeth yng Nghymru gan ymledu trwy ganolbarth Lloegr a cheir niferoedd cynyddol yn Lloegr a'r Alban heddiw. Fe'i croeswyd â'r ffured ddof i greu'r “ffured ddu” sy'n ddiguro ar gyfer hela cwningod a difa llygod mawr.
Ar ddechrau'r 21g credir bod dros 17,000 ohonynt yng Nghymru.
Pa dystiolaeth gynhanesyddol o'r oes holosen sydd am bresenoldeb y ffwlbart yng Nghymru a/neu Brydain?
Yn 2002 cododd erthygl yng nghylchgrawn Mammal Review Cymdeithas y Mamoliaid (''The Mammal Society'') amheuon ynghylch statws cynhenid y ffwlbart yng Nghymru a Phrydain gan ddadlau bod y record ffosil prin a thystiolaeth ieithyddol gynnar yn bwrw amheuon ar y statws hwn. Yn wahanol i fwyafrif anifeiliaid cynhenid Prydain, nid yw enw Cymraeg y ffwlbart o gyff Celtaidd - mae'n tarddu o'r Saesneg Canol foulmart) nid yn annhebyg i fwyafrif rhywogaethau estron Prydain megis y gwningen a'r danas (enwau sy'n tarddu, yn eu trefn, o'r Saesneg Canol konyng a Hen Ffrangeg dain). Nid oes son am ffwlbart mewn llenyddiaeth Eingl-Sacsoneg na chwaith mewn llenyddiaeth Gymraeg, cyn y Concwest Normanaidd yn 1066. Y cyfeiriad cyntaf ato yn y Gymraeg fu yn Llyfr Coch Hergest y 14g ac yn Saesneg yn The Pardoner’s Tale (1383) gan Chaucer. Mewn cyferbyniad, mae tystiadau i'r gair Cymraeg bele Martes martes yn mynd yn ôl o leiaf i Gyfreithiau Cymreig y 10g, ac o bosibl, llawer ynghynt yn yr Hen Ogledd (yng ngororau'r Alban a Lloegr)[4][5][6]
Enwau Llydaweg am y ffwlbart yw pudask, putoask a puteos, pob un yn tarddu o'r Ffrangeg putois [7]. Nid oes atgof 'Celtaidd' felly yn yr iaith Lydaweg (iaith a gafodd ei ffurfio o'r Frythoneg yn y 5ed a'r 7g gan ymfudiad siaradwyr yr ieithoedd hynny) yn Llydaw chwaith. Gellid dehongli'r absenoldeb hwn yn yr eirfa Gymraeg fel dadl i amau presenoldeb y ffwlbart yn nhiriogaeth siaradwyr Cymraeg cynnar ar y pryd)[4]. Y ffwlbart yw'r unig famal a ystyrir yn gynhenid, sydd ag enw Cymraeg o darddiad estron)[8].
Yn groes i'r casineb at y ffwlbart a ddisgrifiwyd (yn Lloegr) uchod, mae rhai cerddi rhamantaidd o Oes Fictoria yn adlewyrchu peth edmygedd ohono, ac ar y cyfan mae'r enghreifftiau canlynol yn defnyddio mwy o eiriau positif ("hynod", "heb ei eilydd", "ffel", "swilaidd", "aidd") na negyddol ("bryd Pharo", "drewaidd"):
Mae eraill yn cymharu'r ffwlbart ô phethau a ystyrid yn annymunol, megis dyfodiad y modur, gydag ansoddeiriau negyddol yn bennaf ("anwaraidd", "rhywyllt", "drewi", "baw"):
Mewn enghraifft arall cyflëir peth o ddirgelwch yr anifail a ddarganfuwyd yng ngardd Maesymeillion - "y trydydd welwyd yno yn ystod y ddau fis diweddaf". Mae'r adroddiad yn helaethu: "Methir â dyfalu beth a'u huda i le mor beryglus, a beth sydd a fynont a gardd Maesymeillion mwy na rhyw ardd gyffredin arall. Crea y digwyddiadau gryn syndod ymysg yr ardalwyr, a gofynant gydag un llais..."angen ffynhonnell:
Dywedir: “yn drewi fel ffwlbart”, “yn ddiog fel ffwlbart”.
Yn wahanol i'r bele, nid oes enwau lleoedd hysbys yng Nghymru sydd yn cyfeirio at ffwlbart (Mae ambell enghraifft o Nyth Cacwn difriol, a Nyth Dryw, [2], ac fe glywir cyfeiriadau llafar at "Nyth Ffwlbart" fel enw ar dy anniben). Mae'r absenoldeb hwn yn gyson â'r dybiaeth nad anifail cynhenid yw'r ffwlbart.
Yn y Saesneg daeth y gair polecat i olau dydd ar ôl Concwest Normanaidd Lloegr, wedi ei ysgrifennu fel polcat. Tra bo'r ail sill yn hunan-esboniadwy, mae tarddiad y cyntaf yn anghlir. Fe'i terddir o bosib o'r Ffrangeg poule (iar), yn adlewyrchu hoffter yr anifail am ddofednod, ond fe all fod hefyd yn amrywiad ar yr Saesneg ful, yn golygu foul (drewllyd). Yn y Saesneg Canol cyfeirid at yr anifail fel foumart, yn golygu rhywbeth fel bele drewllyd (i'w gyferbynnu efallai â'r "bele melys" (sweet mart))[4].
Mae’n debyg nad oes yr un anifail Prydeinig arall sydd wedi cael cymaint o enwau llafar â'r ffwlbart. Yn ne Lloegr cyfeirid ato fel fitchou tra’n y gogledd fe’i adwaenid fel foumat neu foumard. Fodd bynnag mae llu o rai eraill gan gynnwys amrywiadau sillafu diddiwedd: philbert, fulmer, fishock, filibart, poulcat, poll cat, ayb. Adnabu Charles Oldham o leiaf 20 fersiwn o’r enw yn Swyddi Hertford/Bedford yn unig.[16].
Enwau brodorol ar Mustela putorius Grwp neu ardal ieithyddol Enw tafodiaethol Lloegr a Manaw Foul-cat[17] Craven/Leeds/De Gaerhirfryn Pow-cat[18][19][20] Durham Foomart[21] Swydd Henffordd Fitchuck[22] Sir Gaerhirfryn Foomurt[23] Sgoteg Thummurt[24]Yn yr Hen Ffrangeg cyfeirid at y ffwlbart fel fissau, a darddai o ferf Almaeneg Isel a "Sgandinafaidd" a olygai drewi. Mae'r ffurf fitchet yn wreiddyn y fisher (anifail) o Ogledd America, a enwyd gan ymfudwyr Iseldiroedd a welodd rai nodweddion tebyg yn y ddwy rywogaeth[26] a daeth yntau yn ei dro yn fitch, a ddefnyddir am groen yr anifail[27].
Yn ogystal â nifer o enwau brodorol yn cyfeirio at ddrewdod (gweler uchod) tardd yr enw gwyddonol Mustela putorius hefyd o ddrewdod naturiol y rhywogaeth hon. Ystyr y Lladin putorius yw drewllyd (neu waeth) ac mae'n gytras a’r gair putrid.
Mae ymddangosiad y ffwlbart yn nodweddiadol o aelodau'r genws Mustela (y carlymfilod), er ei fod yn gyffredinol yn fwy cryno o gorff ac, er yn goesfer, mae iddo gorff llai hirfain na'r minc neu ffwlbart y stepdir.[28][29]. Cynffon fer sydd ganddo, tua thraean hyd ei gorff.[28] Mae'r llygaid yn fach gydag iris brown tywyll. Mae bodiau'r traed yn hir a lled-weog, gyda chrafangau ôl 4 mm o hyd, lled-grymiog, heb fod yn ôl-dynadwy. Mae'r crafangau blaen yn grymiog iawn, yn lled ôl-dynadwy, ac yn mesur 6 mm o hyd[30]. Mae'r traed yn weddol hir ac yn fwy praff na rhai aelodau eraill y genws[29]. Mae penglog y ffwlbart yn gymharol arw a throm, yn fwy felly na'r minc, gyda pharth blaen cryf ond llydan a byr. Mewn cymhariaeth â charlymfilod eraill o faintioli tebyg, mae dannedd y ffwlbart yn gryf iawn, mawr a swmpus o'u cymharu a maint y benglog. Mae dwyffurfedd rhywiol y benglog yn ei amlygu ei hun ym mhenglog ysgafnach, culach y fenyw[31].
Amrywia maintioli'r ffwlbart yn fawr. Nid yw'r rhywogaeth yn cyd-ymffurfio a Rheol Bergmann; mae maintioli ei gorff dros amrediad ei ddosbarthiad fel petai'n mynd yn fwy o'r dwyrain i'r gorllewin[32]. Mae gyrywod yn mesur 350–460 mm o hyd corff a benywod yn mesur 290–394 mm. Mae'r gynffon yn mesur 115–167 mm (gwrywod) a 84–150 mm (benywod). Mae oedolion gwryw canol Ewrop yn pwyso 1,000-1,500 gram a rhai benyw 650-815 gram. Ceir achosion o "anferthiaeth" ymysg ffwlbartaid ond mae'r cyfryw sbesimenau yn debyg o fod yn ffrwyth croesfridio[33][34]
Dugoch yw lliw cot aeaf y ffwlbart gyda chryfder y lliw yn cael ei benderfynu gan liw'r gwarchodflew. Ar y cefn a'r ystlys lleddfir tywyllwch y lliw gan isflew melynwyn, weithiau llwydfelyn, sydd yn dangos trwodd. Nid yw'r isflew yr un mor weladwy. Gorchuddir y cefn a'r parthau ôl gan warchodflew tywyll. Mae'r gwddf, gwar a'r gest yn ddugoch. Mae'r aelodau'n ddu pur neu ddu ag arlliw o frown, a'r gynffon yn ddu neu'n ddugoch heb unrhyw isflew golau. Mae'r parth o gwmpas y llygaid yn ddu-goch, gyda rhesen o liw tebyg ar hyd pont y trwyn. Mae'r clustiau'n ddu-goch wedi eu hymylu â gwyn. Mae cot yr haf yn fyr, tenau a garw, yn llwytach, dylach ac yn llai gloyw na chot yr haf. Mae'r isflew yn wannach ei ddatblygiad yng nghot yr haf, sydd o liw llwydfrown neu lwytgoch[35]. Mae'r ffwlbart yn nofiwr da[36] ond nid yw ei flew wedi eu ynysu cystal yn erbyn dŵr oer ag yw blew'r minc Americanaidd; tra bo'r minc yn cymryd 118 munud i oeri mewn dŵr o dymheredd 8 °C, mae'r ffwlbart yn oeri llawer ynghynt, gan gymryd 26–28 munud i oeri[37]
Ceir dwy brif ffurf (neu ffenoteip) ar ffwlbartiaid, yr un nodweddol ac un sydd â chot dywyll heb fwgwd gwyn[38]. Ceir hefyd cyfnewidiadau lliw sy'n cynnwys ffurf albino a ffurf goch erythristig[35]
Mae'r ffwlbart yn llawer llai amddiffynnol o'i diriogaeth na'i gyd-aelodau o deulu'r Mustelidae gydag anifeiliaid o'r un rhyw yn rhannu'n aml yr un libart[39]. Ac fel eraill o'i deulu mae'r ffwlbart yn amlwreiciwr, a'r fenyw yn beichiogi'n syth ar ôl paru, heb unrhyw ofyliad wedi ei hysgogi[40]. Fel arfer mae'n esgor ar dorraid o bump i ddeg cathan sydd yn cyrraedd cyflwr annibynnol ar ôl dau neu dri mis. Mae'n bwyta cnofilod bychain, adar, amffibiaid ac ymlusgiaid[40]. Fe all anablu ei brae trwy frathu trwy'r benglog ei brae gan ei roi i'w gadw yn ei ffau[40][41].
Cynigir y termau Cymraeg canlynol am y termau Saesneg a) habitat, b) home-range a c) territory, sef termau a ddefnyddir am y gwahanol foddion mae mamaliaid (yn bennaf) yn defnyddio tir: yn eu trefn felly; a) cynefin (natur y tir, ei lysdyfiant, topograffi, uchder ayb), b) libart, cynefin (defaid a geifr yn unig), weithiau mewn modd mwy cyffredinol milltir sgwar (y tir cyfarwydd y mae anifail yn ei fynychu o ddydd i ddydd; gall hwn amrywio gyda rhyw, oed a thymor), ac c) tiriogaeth (y tir y mae anifail yn ei amddiffyn rhag cystadleuwyr, fel arfer o'r un rhywogaeth.)
Yn wahanol i ffwlbart y stepdir, mae bywyd y ffwlbart Europeaidd yn llawer mwy sefydlog, yn meddu ar ei libart lled-ddigyfnewid ei hun[42]. Mae nodweddion y libart hwn yn wahanol fodd bynnag yn ôl y tymor, y cynefin, rhyw y deiliad a'i statws yn ei gymdeithas[43]. Mae benywod ffrwythlon yn ymsefydlu mewn libart penodol tra bod gwrywod ffrwythlon a'r ieuainc yn fwy symudol ac yn gwasgaru dros barthau mwy amhenodol i fodloni eu hanghenion[44].
Mae gwrywod yn nodweddiadol yn amddiffyn tiriogaeth fwy nag a wna benywod. Mae pob ffwlbart yn defnyddio mwy nag un wâl[45] ac weithiau defnyddir hen wâl mochyn daear neu lwynog[42]. Mae warinoedd cwningod yn aml yn fangreoedd o brysurdeb mawr i ffwlbartod. Yn y gaeaf gwnaiff ddefnyddio adeiladau fferm neu dasau gwair fel lleoedd ymochel liw dydd. Nid yw'r ffwlbart mor diriogaethol ag yw llawer o garlymfilod bychain eraill, ac fe brofwyd iddynt rannu tiriogaeth gydag eraill o'r un rhyw. Mae tystiolaeth o ffwlbartiaid yn marcio'u tiriogaeth yn wan[45]. Fel carlymfilod eraill mae'n anifail di-sŵn, er y gwnaiff riddfan yn ffyrnig mewn dicter, a gwichian mewn trallod. Bydd hefyd yn lleisio cri mewian isel i'w gymar neu i'w epil[46].
Un sydd yn bridio'n dymhorol yw'r ffwlbart, heb unrhyw ddefodau carwriaeth. Yn ystod y tymor cymharu mae'r gwryw yn cydio yng ngwar y fenyw er mwyn ei hysgogi i fwrw wy, ac wedyn mae'n cymharu â hi am hyd at awr. Mae'r rhywogaeth yn amlwreiciol gyda phob gwryw yn cymharu a nifer o fenywod. Yn wahanol i garlymfilod bach eraill ni chaiff ofyliad ei ysgogi, a beichiogir yn syth. Mae cyfnod torogiad y fenyw yn para am 40-43 diwrnod; esgorir ar y torllwythi ym mis Mai neu Fehefin cynnar. Mae i dorllwythi arferol bump i ddeg cathan. Ar eu genedigaeth maent yn pwyso 9-10 g ac yn mesur 55–70 mm o hyd corff; maent yn ddall a byddar. Ar ôl wythnos bydd gorchudd o flew sidanaidd gwyn ar y cathannod, ac yn ei le erbyn 3-4 wythnos daw cot wlannaidd o liw llwydfrown-sinamon. Mae'r broses o'u diddyfnu yn cychwyn pan font yn dair wythnos oed, tra bo'r dannedd parhaol yn ymddangos ar ôl 7-8 wythnos. Daw annibyniaeth y cathannod ar ôl dau neu dri mis[47]. Mae benywod yn warchodol iawn o'u hepil, a dywedir iddynt herio pobl sydd yn dod yn rhy agos i'r dorllwyth[48]
Mae deiet y ffwlbart yn cynnwys cnofilod o faint llygod, yna amffibiaid ac yna adar. Prae di-fudd iddo yw amffibiaid fodd bynnag gan mor isel yw eu gwerth calorïaidd, pa sawl bynnag ohonynt mae'n eu bwyta. Pennir rythm ei gyfnodau bywiog gan weitharwch ei brif brae[49]. Ymhlith y rhywogaethau nad ydynt yn amlyn ysglyfaeth i'r ffwlbart, y mae'r draenog, y neidr wair a thrychfilod[50]. Ar ynysoedd Prydain mae'n lladd llygod mawr a chwningod yn rheolaidd, ac mae'n atebol i ladd prae mwy sylweddol megis gwyddau ac ysgyfarnogod[47]. Gwelwyd un ffwlbart yn aros ar lan afon i ddal llysywod, gan ddychwelyd i'w wal gyda hwy[51]. Mae'r ffwlbart yn ymborthi ar lysywod yn bennaf yn ystod cyfnodau o oerfel llym, pan fydd y llysywod yn crynhoi oherwydd rhew, o gwmpas "tyllau anadlu". Yn wahanol i'r carlwm a'r wenci mae'r ffwlbart yn aml yn bwyta celanedd gan gynnwys gweddillion carnolion[52]. Mae'r ffwlbart yn hela ei brae trwy herwa, neidio arno a'i frathu yn ei wegil gyda'i ddannedd carnysol, gan ei ladd. Greddf ynddo yw'r dull hwn ond fe'i perffeithir trwy ymarfer. Weithiau mae'r ffwlbart yn rhoi ei fwyd i'w gadw, yn enwedig mewn cyfnod o doreth o lyffantod[53]. Nid yw'r ffwlbart bob tro yn eu lladd, ond yn eu brathu ym môn y benglog a'u parlysu i'w cadw'n ffres at rywdro eto[47]. Er eu bod fel rheol yn swil yng ngŵydd pobl sonia'r naturiaethwr Alfred Brehmen yn ei Brehms Tierleben am enghraifft eithriadol o dri ffwlbart yn ymosod ar fabi yn Hesse[48]. Yn ystod y gaeaf, pan fo ysglyfaeth byw yn brin, gall y ffwlbart ysbeilio cychod gwenyn am y mêl[54].
Gall y ffwlbart fod yn ysglyfaeth i lwynogod[54] ac i gathod dof a chathod gwylltion[55]. Er i'r ffwlbart gydfyw â'r minc Ewropeaidd (er bod un cofnod o ffwlbart yn ymosod ar finc a'i lusgo i'w wâl[56]), mae'n dioddef yn yr ardaloedd lle mae'r minc Americanaidd ar gael, gan fod yr ail rywogaeth yn lladd yr un prae mamolaidd â'r ffwlbart lawer mwy na'r minc Ewropeaidd, ac wir, fe'i gwelwyd yn erlid y ffwlbart o'i gynefinoedd corsiog[57]. Lle ceir y ffwlbart yn cyd-ddigwydd â ffwlbart y stepdir, mae'r ddwy rywogaeth yn gorgyffwrdd yn fawr yn eu dewis o ddeiet, er i'r gyntaf dueddu i fwyta mwy o fwyd tai ac adar, tra bo'r ail yn canolbwyntio fwy ar famoliaid[58]. Mae o leiaf un cofnod o fele'r graig Martes fouina yn lladd ffwlbart[59]. Gall y ffwlbart ymosod ar wenci sy'n sylweddol llai nag ef[60].
Mewn rhai ardaloedd Brydain, arweiniodd y trai yn yr arfer o gadw ffuredi at groesiadau ffured-ffwlbart yn y gwyllt wrth i'r anifeiliaid gael eu traed yn rhydd. Mae'n debyg i ffuredi gyrraedd Prydain ar ôl Concwest Normanaidd Lloegr, neu efallai mor hwyr a'r 14g[61]. Nid yw'n bosibl ar hyn o bryd i wahaniaethu rhwng ffwlbartiaidd a chroesiadau trwy ddadansoddiad DNA gan fod y ddwy ffurf yn rhy berthynol â'i gilydd a chymysg eu tras i ganiatáu cymhwyso dulliau genetigol modern[62]. Mae croesfridio rhwng y ddau anifail yn dangos, yn nodweddiadol, clytyn gwyn amlwg ar y gwddf, traed gwyn a blew gwyn yn gymysg yn y blew[63]. Fel arfer, bydd croesiadau cenhedlaeth gyntaf rhwng ffwlbartod a ffuredi yn datblygu ofn nodweddiadol eu rhiant gwyllt os gadewir hwynt gyda'u mam yn ystod y cyfnod critigol cymdeithasoli rhwng 7½ ac 8½ wythnos oed[64]. Weithiau hysbysebir croesiadau honedig fel anifeiliaid arbennig er mwynhela cwningod, er fod croesiadau go iawn yn debyg o fod yn anos i'w trin, yn llai 'tebol o ymgynefino a chŵn, ac yn fwy tebyg o ladd y gwningen yn ddioed yn hytrach na'i chodi'n fyw o'i thwll yn unig[65].
Gall ffwlbartod groesi â'r minc Ewropeaidd prin, gan ddod ag epil a elwir yn khor'-tumak gan werthwyr pân[66] a khonorik (o'r geiriau Rwseg am ffured a minc) gan y rhai sydd yn eu cadw[67]. Mae ymgroesi o'r fath yn brin iawn yn y gwyllt, ac fel arfer nid yw'n digwydd ond mewn ardaloedd lle mae'r minc Ewropeaidd ar drai[68]. Mae i groesiad ffwlbart-minc fwgwd wynebol gwael ei ddatblygiad, blew melyn ar y clustiau, isflew llwyd-felyn hir a blew bras gwarchodol brown tywyll. Mae'n weddol fawr, gyda'r gwryw yn cyrraedd maintioli gyda'r mwyaf i'w hil (yn pwyso 1,120-1,746 g ac yn mesur 41–47 cm o hyd), ac mae'r fenyw yn sylweddol fwy na menyw minc Ewropeaidd (yn pwyso 742 g and measuring 37 cm o hyd)[34].
Mae'r mwyafrif o groesiadau ffwlbart-minc yn meddu ar benglog lawer tebycach i benglog ffwlbart nag i minc[69]. Fe all y croesiadau nofio'n dda fel minc a thurio am fwyd fel ffwlbart. Maent yn anodd iawn i'w dofi a'u bridio, gan fod gwrywod yn anffrwythlon er bod benywod yn ffrwythlon[67][69]
Crewyd y croesiad ffwlbarth-minc cyntaf yn 1978 gan swolegydd Sofietaidd y Dr. Dmitry Ternovsky o Novosibirsk. Cawsant eu bridio gyntaf i gael eu ffwr (a oedd yn fwy gwerthfawr na blew y naill riant na'r llall), ond bridwyd llai gyda thrai poblogaeth y minc Ewropeaidd[67]. Dengys astudiaethau ar ecoleg ymddygiadol croesiadau ffwlbart-minc a fu a'u traed yn rhydd ym mlaenau'r Afon Lovat, fod y croesiadau'n fwy tebyg o grwydro o gyffiniau cynefinoedd acwatig na mincod pur ac yn goddef y ddwy riant-rywogaeth yn eu tiriogaeth er bod maintioli'r croesiad (yn enwedig y gwryw) yn rhwystro hyn. Yn ystod yr haf mae deietau croesiadau ffwlbart-minc yn debycach i ddeiet minc nag i ddeiet ffwlbart gan iddynt ymborthi ar lyffantod. Yn y gaeaf mae'r ddeiet yn gorgyffwrdd fwy â deiet y ffwlbart, ac fe fwytânt gyfran fwy o gnofilod nag yn yr haf, er yn parhau'n ddibynnol iawn ar lyffantod, ac anaml iawn y byddant yn ysbeilio celanedd carnolion fel y gwna ffwlbartiaid[34]. Gall y ffwlbart hefyd fridio gyda ffwlbart y stepdir o Asia, neu'r ffured droed-ddu o ogledd America ac yn esgor ar epil ffrwythlon[61]. Mae croesiadau rhwng y ffwlbart Ewropeiadd a ffwlbart y stepdir yn brin iawn, er iddynt fynychu'r un tir mewn amryw ardaloedd. Fodd bynnag fe'u gwelwyd yn ne'r Wcráin, yn nhalaith Kursk a Voronezh, mynyddoedd Traws-Carpatia ac amryw o ardaloedd eraill[70].
Y "gwir" ffwlbart cynharaf oedd Mustela stromeri a ymddangosodd yn ystod cyfnod Villafranch. 'Roedd yn gryn llai na'r ffurf bresennol, a dywedir i hyn awgrymu iddo esblygu'n gymharol hwyr. Cafwyd ffosiliau hynaf y ffwlbart modern yn yr Almaen, Prydain a Ffrainc, ac maent yn dyddio yn ôl i gyfnod y Pleistosen Canol. Perthnasau agosaf y ffwlbart fodern yw ffwlbart y stepdir (Mustela eversmanii) a'r ffured troed-ddu (Mustela nigripes), a chredir iddynt ill tair ddeillio o hynafiad cyffredin, sef Mustela stromeri. Fodd bynnag, nid yw'r ffwlbart wedi esblygu i raddau mor eithafol i gyfeiriad cigysoledd ag a wnaeth ffwlbart y stepdir, gan iddo feddu ar benglog a deintiad llai arbenigol[45][71][72][73]
Mae'n debyg i'r ffwlbart ymwahanu oddi wrth ffwlbart y stepdir rhwng 430,000 a 1.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[74]. Fe berthyn hefyd i'r minc Ewropeaidd ac fe all groesfridio[66]
Cadarnha astudiaethau morffolegol, sytolegol a molecwlegol mai'r ffwlbart Ewropeaidd yw unig hynafiad y ffured, hwn felly yn gwrthbrofi unrhyw gysylltiad a wneid â ffwlbart y stepdir, y credid ar un adeg iddo gyfrannu i genhedlu'r ffured[63]
Ers 2005[75] adweinir saith is-rywogaeth.
Is-rywogaeth Awdurdod tri-enwol Disgrifiad Lledaeniad Synonymau Ffwlbart(Is-rywogaeth Enwol [nominate])
Linnaeus, 1758 Mwy na mosquensis, gyda blew tywyllach, ysgafnach a disgleiriol[76] Gorllewin Rwsia Ewropeaidd, gorllewin Belarws, gorllewin Yr Wcráin, Canolbarth Ewrop a gorllewin Ewrop flavicans (de Sélys Longchamps, 1839)foetens (Thunberge, 1789)
foetidus (Gray, 1843)
iltis (Boddaert, 1785)
infectus (Ogérien, 1863)
manium (Barrett-Hamilton, 1904)
putorius (Blyth, 1842)
verus (Brandt in Simashko, 1851)
vison (de Sélys Longchamps, 1839)
vulgaris (Griffith, 1827)
wedi ei ddifodi
M. p. caledoniae
furoputorius (Link, 1795)
subrufo (Gray, 1865)
orientalis (Polushina, 1955)
ognevi (Kratochvil)
Mae'r ffwlbart yn eang ei ddosbarthiad yn y Palaearctig gorllewinol, cyn belled a'r Wralau yn Ffederasiwn Rwsia er ei fod yn absennol o Iwerddon, o ogledd Sgandinafia, o lawer o'r Balcanau ac o arfordir dwyreiniol y Môr Adriatig. Ychydig sydd ar gael yng ngogledd Groeg. Fe'i ceir ym Moroco ym Mynyddoedd Riff, o lefel y môr i 240m. Cyflwynwyd ei ffurf ddofedig, y ffured, i Brydain, i rai ynysoedd Môr y Canoldir ac i Seland Newydd[6].
Roger Lovegrove (2007)[81]
Ym Mhrydain yn gyffredinol ystyriwyd y ffwlbart yn ymosodydd difrifol ar ddofednod cyn i ffensys weiren gyrraedd y tir, a'r unig ddewis a welwyd i ddod i ben â hyn oedd ei ddifa'n llwyr. Serch hynny, nid oedd hyn yn wir ymhobman efallai: dyma ddywed Peter Hope Jones mewn astudiaeth yn 1974[82]:
“ [cyfieithiad]: "I sir [sef Meirionnydd] y cydnabyddir iddi fod ynghanol hen gadarnle'r ffwlbart, cofnodwyd cymharol ychydig o ffwlbartod yng nghofnodion plwyfi Meirionnydd o blith ei thaliadau bownti. Efallai nad oedd yr anifail hwn yn cael ei ystyried yn bla o bwys, ond am ba reswm bynnag, dim ond yng nghofnodion dau blwyf yn unig y cyfeirir yn uniongyrchol at y rhywogaeth hon dan yr enwau rydym yn ei adnabod heddiw. Yn y pedair blynedd 1729-1732 lladdwyd tuag 20 ym mhlwyf Tywyn, a thalwyd 2/6 am ffwlbart yn ei lawn dwf a hanner y swm hwn am ffwlbart ifanc (kittin meddid). Mae'r cofnodion am Llanfor.... yn dangos mai dim ond 42 a laddwyd yn y cyfnod 39-mlynedd 1720-1758, gyda'r taliad yn hanner y swm hwnnw ar y raddfa gyfredol am lwynog." ”Gyda chyrhaeddiad y modd digidol o chwilio hen ddogfennau, efallai ei bod hi'n bryd rhoi ail gynnig ar y math hwn o ymchwil, gyda'r posibilrwydd o ddarganfod swmp llawer mwy o ddata. Dyma a ddaeth i'r golwg mewn papur newydd ar lein yn y Cymro (7fed Gorffennaf 1898) am blwyf yn Sir Feirionnydd eto, yn awgrymu gwerth cyfartal rhwng croen llwynog a chroen ffwlbart.
Ac mewn ardaloedd a phapurau eraill, fel cynnig ar ehangu ymchwil Hope Jones i weddill Cymru, gan gynnwys amrywiol ffynonellau, dyma enghreifftiau:
Oherwydd cyd-ddibyniaeth ecolegol ddofn sydd rhwng Cymru a Lloegr mae'n werth olrhain ei hanes yno. Yng Nghaint talodd o leiaf 42 o blwyfi fownti am ffwlbart, tri ohonynt yn yr 19g, er, erbyn hynny, unigolion yn unig a gofnodwyd, yn aml ar ol bylchau o rai blynyddoedd[85]}}. Yn Nheyrnas yr Alban, yn ystod teyrnasiad David II trethwyd pob tociwr crwyn ffwlbart 4c., a godwyd drachefn i 8c. yn 1424. Daliai crwyn ffwlbartiaid le pwysig ym marchnadoedd crwyn yr Alban; gwerthwyd 400 o grwyn yn 1829 yn Ffair Crwyn Dumfries (1816-1874) a 600 yn 1831. Y flwyddyn ganlynol, disgrifiodd adroddiad cyfoes grwyn ffwlbartod fel "a drug on the market". Yn 1856, gostyngodd y nifer o grwyn a werthwyd i 240, 168 yn 1860, 12 yn 1866 ac i dim yn 1869[86]. Ataliwyd gostyngiad pellach gan drai cipera ar yr ystadau saethu a physgota rhwng y ddau ryfel byd[87].
Bellach, ceir ffwlbartiaid ar hyd y rhan fwyaf o Gymru wledig ac yn Lloegr o Swydd Caer i'r de hyd at Wlad yr Haf, ac i'r dwyrain hyd at Swydd Caerlŷr a Swydd Northampton, er iddo farw o'r tir dros ran helaeth o Loegr, gan oroesi yng Nghymru yn unig (ag eithrio ym Môn). Bu ymlediad sylweddol dros glawdd Offa yn ystod y ganrif a aeth heibio. Cafodd y rhywogaeth ei chyflwyno i swyddi Cumbria a Westmorland (Cumbria heddiw), i Argyll ac i Ddyffryn Spey yn yr Alban yn ystod y 1970au ac 1980au, er na wyddys pa beth yw statws presennol y poblogaethau hyn.
Mae ei ddosbarthiad modern yn aneglur yn rhannol oherwydd presenoldeb croesiadau ffwlbart-ffured. Ar wahan i brosiectau ail-gyflwyno, ffactorau eraill sydd yn cynorthwyo adferiad y ffwlbart i'w hen diriogaethau yw cynnydd ym mhoblogaeth cwningod a gostyngiad mewn erledigaeth gan giperiaid. Ystyrid ei boblogaeth yn hyfyw ers canol y 1990au. Gwarchodir y ffwlbart dan ddeddf Brydeinig ac Ewropeaidd; fe'i rhestrir ar Restr 6 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac ar Reoliad 41 o [[Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994|Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994 ac yn rhestredig yn Atodiad V o'r Cyfarwyddiad Cynefinoedd[88]. Cynhaliwyd arolwg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent yn 2015 ac fe'i cafwyd wedi ymledu i ardaloedd fel Dwyrain Lloegr a de Swydd Efrog lle nas gwelwyd ef am 100 mlynedd. Disgrifiodd y naturiaethwr Chris Packham yr ymlediad fel "un o'r adferiadau naturiol mawr"[89]
Fe all y ffwlbart ddioddef o glefyd y cŵn (distemper), y ffliw (neu'r anwydwst), yr annwyd gyffredin a niwmonia. Weithiau caiff ei effeithio gan diwmor adwythig a dŵr ar yr ymenydd (hydrosephali). Yn gyffredin caiff ei ddannedd eu torri, ac yn llai aml, caiff cornwydydd marwol ar yr ên, pen a'r gwddf. Yn Ewrop ceir enghreifftiau o ffwlbartiaid yn cario'r gynddaredd mewn rhai ardaloedd[90]. Adweinir nifer o ectoparasitau, yn eu plith mathau o chwain megis, Ctenocephalides felis, Archaeospylla erinacei, Nosopsyllus fasciatus a'r chwannen Paraceras melis. Ectoparasit mwyaf cyffredin y ffwlbart yw'r drogen Ixodes hexagonus, ac fe'i ceir weithiau mewn niferoedd plagus ar y gwddf a thu ôl i'r clustiau. Math arall llai cyffredin sy'n manteisio arno yw I. canisuga. Adnabyddir hefyd y lleuen brathu Trichodectes jacobi[90]. Ymysg yr endoparasitiau mae ffwbartiaid yn eu cario y mae'r sestodau Taenia tenuicollis a T. martis a'r nematodau Molineus patens, Strongyloides papillosus, Capilliaria putorii, Filaroides martis and Skjrabingylus nasicola[90].
Mamal cigysol o deulu'r carlymfilod (Mustelidae), sef teulu'r wenci a'r carlwm, yw'r ffwlbart (lluosog: 'ffwlbartiaid', Lladin: Mustela putorius). Fe'i ceir yng nghoedydd, ffermdiroedd a gwlyptiroedd ar draws Ewrop. Mae'n bwydo ar gwningod, cnofilod, llyffantod a thrychfilod. Dyma un o hynafiad gwyllt y ffured dof.
Mae ei gorff a'i ben yn 20–46 cm o hyd ac mae ei gynffon yn 7–15 cm. Brown tywyll yw lliw ei flew gyda blew melyn ar ei ystlysau a phatrwm du a gwyn trawiadol ar ei wyneb. Mae'n greadur swil iawn ac i'w weld allan yn y nos. Mae'n nofiwr cryf ac yn gallu dal pysgod ond mamaliaid bychain yw ei hoff fwyd.