Hwyaden sy'n byw o gwmpas yr arfordir yw'r Fôr-hwyaden ddu. Mae'n nythu yng ngogledd Ewrop ac Asia, yn ymestyn i'r dwyrain hyd at Afon Olenyok yn Siberia. Mae'n hwyaden fawr, 43–54 cm o hyd. Dim ond y ceiliog sy'n ddu, tra mae'r iâr yn frown.
Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de, gyda rhai yn cyrraedd cyn belled a Morocco. Nid yw'n nythu yng Nghymru, ond gellir gweld niferoedd sylweddol ger yr arfordir yn y gaeaf, yn enwedig ym Mae Caerfyrddin.