dcsimg

Cornchwiglen ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src=
Vanellus vanellus

Mae'r Gornchwiglen (Vanellus vanellus) yn aelod o deulu'r rhydyddion. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop a gogledd Asia.

Mae'r Gornchwiglen yn aderyn mudol yn y rhannau lle ceir gaeafau oer ac yn symud i'r de cyn belled a gogledd Affrica a gogledd India. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n mudo.

Gellir adnabod y Gornchwiglen yn hawdd. Mae'n aderyn du a gwyn, ond gyda lliw gwyrdd ar y cefn, ac mae plu hir ar y pen. Mae rhwng 28 a 31 cm o hyd a 67–72 cm ar draws yr adenydd. Yn y tymor nythu gellir clywed yr adar yn galw yn ddi-baid.

Mae'n nythu ar gaeau a lle bynnag y ceir tir agored gyda glaswellt heb fod yn rhy hir. gan ddodwy 3 neu 4 wy ar y llawr. Mae'r rhieni yn amddiffyn y nyth ac yn ddiweddarach y cywion rhag unrhyw aderyn neu anifail a allai fod yn berygl iddynt. Mewn llawer o wledydd, yn cynnwys Cymru, mae'r nifer o Gornchwiglod sy'n nythu wedi gostwng oherwydd fod dulliau ffermio dwys yn golygu fod llai o leoedd addas iddynt nythu. Yn y gaeaf mae niferoedd sylweddol o adar o wledydd eraill yn symud i mewn, ac weithiau gellir gweld heidiau o filoedd ar rannau mwdlyd o lan y môr neu ar gaeau. Eu prif fwyd yw pryfed o wahanol fathau.

Perthynas â phobl

  • Hel wyau griglod

Cofnod Olwen Evans (Môn) yn 2011:

Fy modryb (91 oed) yn dweud fel y byddai yn mynd i aros at ei Nhain i Benrallt, Paradwys a cherdded i Falltraeth i hel cocos. Finnau yn cofio mynd i aros ati hi i Aberffraw pan yn blentyn yn y 50au a chael wedi ei ffrio. Roedd yn arfer gan rai o'r Berffro fynd i hel wyau cornchwiglod i'w bwyta. Ychwanegodd fod “yr hogia yn mynd hyd y twyni hefo tunia a gneud tan a berwi'r wyau a'u bwyta. A hefyd - mynd a nhw i'w gwerthu i bobl fawr Rhosneigr”. Mam wedyn yn cofio mynd i aros hefo’i chwaer i Penyrorsedd yn agos i'r Berffro a Hughie (ei brawd yng nghyfraith) yn mynd i'r caeau i hel wyau cornchwiglod a Lisi yn eu ffrio. Mam yn dotio nad oedd y gwynwy yn troi yn wyn ond yn aros yn glir. Hynny yn gof plentyn gen i hefyd a methu dallt pam nad oedd y gwynwy yn wyn. Mam yn eu galw yn griglan neu griglod.[1]
Dyma farn milfeddygol Jaqueline Wilmington: "Mae “ovalbumin” yn achosi i wynnwy wyau ieir domestig droi’n wyn yn ystod eu coginio. Mae wyau rhai rhywogaethau’n cynnwys llai o “ovalbumin” a mwy o wahanol fathau eraill o albwmin ac felly nid ydynt yn ymateb i goginio yn yr un modd. Mae wyau pengwiniaid yn ymddwyn yn debyg [1].
  • Hanesyn TG Walker am ‘hyfdra’r‘ gornchwiglen:
”.....gallaf adrodd un stori am ddigwyddiad a fu ym mis Mai tua'r flwyddyn 1920 pan oeddwn yn dechrau llafurio cae i'w hau. Cae i haidd ydoedd, gydag amryw Gornchwiglod yn nythu arno a'r wyau, mae'n debyg, ar fin deori. Mi es i'r cae hefo gwedd ifanc wedi cael eu porthi'n dda, ac angen gofal hefo nhw.
Dechrau llyfnu yr oeddwn, ac yn croesi drwy ganol y cae pan ddaeth dwy neu dair o'r Cornchwiglod i hedfan uwchben y ceffylau. Yr oedd un ohonynt yn ddewrach na'r lleill, ac yn troelli a disgyn yn sydyn, gan chwyrnellu heibio pen un o'r ceffylau. Gwnâi hyn am ryw drofa neu ddwy bob tro yr a’n i'r cae, yn y bore ac ar ôl cinio. Ond yn ystod yr ail neu'r trydydd ddiwrnod fe ddaeth hon yn fwy hy, ac fe drawodd y gaseg yn ei chlust hefo'i hadain, a pheri dychryn i'r anifail. Yn ei braw, taflodd y gaseg ei phen i gyfeiriad ei phartneres, a tharawodd pennau'r naill a'r llall yn erbyn ei gilydd. Fe ddychrynodd y ddwy yn waeth fyth wedyn, a chreu helynt difrifol inni Yn wir, bu raid imi ollwng v wedd a mynd adref. Dychwelais i'r cae hefo ci a gwn i chwilio am y gnawes feiddgar. Buan y daeth y Cornchwiglod i erlid yn ol a'r un yr oeddwn yn chwilio amdani yn dod yn nes i'r ci na'r lleill. Gwaith hawdd felly oedd ei phigo allan a rhoi terfyn arni er mwyn cael llonydd i lafurio ac i hau y cae. Tra bu'r gaseg honno yn fy meddiant, yr oedd arni ofn Cornchwiglod, a dyna chi'r gwir."[2]

Llên Gwerin

Yn ôl chwedl, roedd y gornchwiglen yn arfer nythu yn y coed fel adar eraill... a'r dylluan (twyll-Lleu, o chwedl Blodeuwedd) yn nythu ar y llawr. Un diwrnod perswadiwyd y gornchwiglen gan y dylluan i gyfnewid eu llefydd nythu, ac felly y bu. Ond yn fuan iawn fe welodd y gornchwiglen ei bod wedi gwneud camgymeriad mawr... ac ers hynny mae hi yn gweiddi ar y dylluan i newid nôl - 'NEWID, NEWID' yw ei chri.[3]

Cyfeiriad

  1. Olwen Evans ym Mwletin Llên Natur rhyfyn 44
  2. Colofn TG Walker, Y Cymro, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 69
  3. Sion Roberts ym Mwletin Llên Natur rhif 26
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Cornchwiglen: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src= Vanellus vanellus