Mamal bychan yw llygoden (enw benywaidd; lluosog: llygod), sy'n perthyn i urdd y cnofilod, ac sy'n hawdd ei hadnabod oherwydd ei chynffon main, di-flew, pwt o drwyn a chlustiau crwm. Y mwyaf cyffredin yw'r Mus musculus a chaiff ei magu fel anifail dof (anifail anwes). Mewn rhai cynefinoedd mae llygoden y maes hefyd yn gyffredin iawn. Mae'n ysglyfaeth i rai adar mawr eu maint megis y cudyll, y dylluan a'r eryr a mamaliaid eraill megis y gath a'r neidr. Ar adegau maent yn dod i fewn i dai pobl a gallant lochesu oddi fewn i hen waliau.
Gallant ar adegau fod yn bla, gan fwyta a difetha cnyda'r amaethwr[1] gan achosi cryn golled a lledaenu afiechydon drwy'r parasitiaid sy'n byw arnynt a thrwy eu hysgarthiad.[2] Yng Ngogledd America, mae anadlu llwch sy'n cynnwys eu hysgarthiad wedi'i gysylltu gyda hantavirus, a all, yn ei dro, achosi Hantavirus Pulmonary Syndrome (HPS).
Anifail nosol ydynt yn bennaf sy'n dibynnu ar eu clyw yn hytrach na'u golwg.[3][4] Mae eu synnwyr arogli hefyd wedi'i fireinio'n arbennig iawn, yn enwedig er mwyn canfod bwyd a lleoli helwyr fel cathod.[5]
”Llygod”
llygoden y coed Apodemus sylvaticus
llygoden gwar melyn Apodemus flavicollis
llygoden y tŷ Mus musculus
llygoden yr ŷd Micromys minutus
”Llygod mawr”
llygoden ffyrnig/Ffrengig/Norwy Rattus norvegicus
llygoden ddu Rattus rattus
Llygod pencrwn
llygoden bengron goch Clethrionomys glareolus
llygoden bengron y gwair Microtus agrestis
llygoden bengron y dŵr Arvicola terrestris’'
llygoden Sgomer Clethrionomys (glareolus) skomeriensis
Llygon (dim wir yn llygod o gwbl)
llyg cyffredin Sorex araneus
(y) llyg lleiaf Sorex minutus
llyg y dŵr Neomys fodiens
Mamal bychan yw llygoden (enw benywaidd; lluosog: llygod), sy'n perthyn i urdd y cnofilod, ac sy'n hawdd ei hadnabod oherwydd ei chynffon main, di-flew, pwt o drwyn a chlustiau crwm. Y mwyaf cyffredin yw'r Mus musculus a chaiff ei magu fel anifail dof (anifail anwes). Mewn rhai cynefinoedd mae llygoden y maes hefyd yn gyffredin iawn. Mae'n ysglyfaeth i rai adar mawr eu maint megis y cudyll, y dylluan a'r eryr a mamaliaid eraill megis y gath a'r neidr. Ar adegau maent yn dod i fewn i dai pobl a gallant lochesu oddi fewn i hen waliau.
Gallant ar adegau fod yn bla, gan fwyta a difetha cnyda'r amaethwr gan achosi cryn golled a lledaenu afiechydon drwy'r parasitiaid sy'n byw arnynt a thrwy eu hysgarthiad. Yng Ngogledd America, mae anadlu llwch sy'n cynnwys eu hysgarthiad wedi'i gysylltu gyda hantavirus, a all, yn ei dro, achosi Hantavirus Pulmonary Syndrome (HPS).
Anifail nosol ydynt yn bennaf sy'n dibynnu ar eu clyw yn hytrach na'u golwg. Mae eu synnwyr arogli hefyd wedi'i fireinio'n arbennig iawn, yn enwedig er mwyn canfod bwyd a lleoli helwyr fel cathod.