dcsimg

Pibydd Coesgoch ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Mae'r Pibydd Coesgoch (Tringa totanus) yn un o aelodau mwyaf cyffredin teulu'r rhydyddion.

Mae'r Pibydd Coesgoch yn nythu ar draws Ewrop a gogledd Asia. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu io gwmpas Môr y Canoldir, de Asia a Gorllewin Ewrop. Ymhellach i'r gogledd, yn yr Arctig mae'r Pibydd Coesgoch Mannog, sy'n aderyn tebyg iawn, yn nythu.

Gellir adnabod y Pibydd Coesgoch oddi wrth y coesau a'r pig coch, ac wrth iddo hedfan y llinell wen ar draws cefn yr adenydd. Yn y tymor nythu mae'r plu yn frown, tra yn y gaeaf mae'n aderyn mwy llwyd. Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd, heb fod ymhell o'r môr fel rheol. Mae'n aderyn gwyliadwrus iawn, ac ym aml y Pibydd Coesgoch yw'r cyntaf i roi rhybudd o berygl i'r adar eraill.

Yng Nghymru mae'r nifer o adar sy'n nythu wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd fod llawer o wlybdiroedd addas ar gyfer nythu wedi eu colli. Gellir gweld llawer mwy ohonynt ar y traethau yn y gaeaf, pan mae adar o nifer o wledydd eraill yn dod i aeafu.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY