dcsimg

Lleuen ( Welsh )

provided by wikipedia CY
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr. Rhestr AIDS

Afiechyd meddwl
Alcoholiaeth
Annwyd
Anorecsia nerfosa
Asma
Syndrom Asperger
Awtistiaeth
Blinder meddwl
Brech goch
Brech ieir
Brech Wen
Briwiau'r geg
BSE
Cansar
Cen gwallt
Clefyd Alzheimer
Clefyd y galon
Clefyd y gwair
Clefyd y siwgr
Clunwst
Clwy'r marchogion
Clwy'r pennau
Clwyf y traed a’r genau
Colera
Creithiau
Croen gyda chraciau
Croen sensitif
Croen sych
Croenlid (Ecsema)
Cur pen
Cur pen eithafol
Cylchrediad y gwaed
Cymalau ystyfnig
Dafad (ar y croen)
Diffyg traul
Dolur annwyd
Dolur gwddw
Dolur rhydd
Yr Eryr
Ffibrosis systig
Ffliw
Ffliw adar
Gorguro’r galon
Gwahanglwyf
Gwlychu gwely
Gwynegon (Cricmala)
Gorguro’r galon
HIV
Iselder ysbryd
Liwcemia
Llau pen
Llais cryglyd
Llid y bledren
Llid y cyfbilen Llosg eira
Llosg haul
Llosgiadau
Malaria
Mislif afreolaidd
Mislif poenus
Mislif ysgafn
Nam ar y clyw
Nerfau
Niwmonia
Peswch
Pigyn clust
Plorod
Poliomyelitis
Poeni
Rwbela
Rhwymedd
Twymyn y gwair
Tyndra’r cyhyrau

Y blwch hwn: gweld sgwrs golygu

Pryfyn bach yw'r lleuen (lluosog: llau neu ) a cheir dros 3,000 gwahanol fath ohonyn nhw. Er mai pryfaid ydyn nhw, tydyn nhw ddim yn medru hedfan. Mae tri math wedi eu cofrestru fel 'Asiant cario Afiechydon Dynol'. Ectoparaseit ydyn nhw sy'n hoff iawn o waed mamaliaid. Er hyn tydyn nhw ddim i'w gweld ar Monotremes (y platapws a'r echidnas) na'r ystlum, y morfil, dolffiniaid y llamhidydd na'r pangolin.

Mae llau pen yn bryfed bychain o faint pen pin – 2–4 mm o hyd (maint hedyn sesame). Maen nhw'n bryfed brown llwydaidd, heb adenydd ac maen nhw'n byw drwy sugno gwaed o groen pen yr unigolyn. Mae eu hwyau'n smotiau gwyn a elwir yn nedd ac maen nhw wedi'u gludo wrth waelod y gwallt. Mae'r wyau'n cymryd 10 diwrnod i ddeor ac aeddfedu, a gallant atgynhyrchu’n gyflym, 10 i 14 diwrnod ar ôl deor. Bydd eu niferodd yn tyfu'n gyflym os na chânt eu trin. Mae llau pen yn gyffredin mewn plant rhwng 4 ac 11 oed o ganlyniad i gysylltiad agos yn yr ysgol. Gall unrhyw un gyda gwallt byr neu hir ddal llau pen.

Mae trosglwyddo'n digwydd drwy gysylltiad agos pen â phen rhwng pobl. Mae llau ddim ond yn para'n fyw am ychydig funudau pan fyddant i ffwrdd oddi wrth ben dynol, ac ni chânt eu cario gan anifeiliaid anwes.

Symptomau a diagnosis

Y prif symptom yw cosi, yn enwedig y tu ôl i'r clustiau neu ar gefn y gwddf. Gall crafu parhaus beri i'r croen dorri, gan ganiatáu i heintiau eilaidd ddatblygu. Fodd bynnag gellir gweld arwyddion pla cyn i unrhyw symptomau ddatblygu – nedd yn y gwallt, ar flew a ddiosgwyd neu gribau; gobenyddion yn dangos bryntni anarferol o ganlyniad i dail llau. Gwneir diagnosis trwy gadarnhad gweledol o'r pla.[1]

Triniaeth

Ceir dwy driniaeth bosibl:

  • Moddion pryfladdol
  • Cribo gwlyb (a elwir weithiau yn ‘ladd llau’)

Mae trwythau a siampŵau pryfladdol dros y cownter fel rheol yn cynnwys un o'r pryfleiddiaid canlynol dan amrywiol enwau:

  • malathion
  • phenothrin
  • permethrin

Cyfeiriadau

  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Lleuen: Brief Summary ( Welsh )