Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw llysiau'r afu palmwyddog (enw gwyddonol: Lunularia cruciata). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Lunulariales, o fewn y dosbarth Marchantiopsida. Dim ond y rhywogaeth hon a geir yn y genws Lunularia.[1][2]
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Nghymru.
Mae Lunularia cruciata yn gyffredin yng ngorllewin Ewrop, lle mae'n frodorol i'r ardal o gwmpas Môr y Canoldir. Mae hefyd yn gyffredin yng Nghaliffornia (UDA), lle mae bellach yn tyfu'n wyllt, ac fe'i gelwir yn chwyn mewn gerddi a thai gwydr yn Awstralia.[3] Cred y gwyddonydd Ella Orr Campbell fod yr Afuad crymbigog wedi'i chyflwyno i Seland Newydd rywbryd ar ôl 1867.[4]
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[5] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw llysiau'r afu palmwyddog (enw gwyddonol: Lunularia cruciata). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Lunulariales, o fewn y dosbarth Marchantiopsida. Dim ond y rhywogaeth hon a geir yn y genws Lunularia.
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Nghymru.
Mae Lunularia cruciata yn gyffredin yng ngorllewin Ewrop, lle mae'n frodorol i'r ardal o gwmpas Môr y Canoldir. Mae hefyd yn gyffredin yng Nghaliffornia (UDA), lle mae bellach yn tyfu'n wyllt, ac fe'i gelwir yn chwyn mewn gerddi a thai gwydr yn Awstralia. Cred y gwyddonydd Ella Orr Campbell fod yr Afuad crymbigog wedi'i chyflwyno i Seland Newydd rywbryd ar ôl 1867.