Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys turner (enw gwyddonol: Cephaloziella turneri; enw Saesneg: Turner's threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ond yn eithriadol brin: fe'i ceir ar arfordir deheuol Sir Benfro ac un lle yn sir Fynwy. mewn un neu ddau o lefydd mae'n tyfu yn Iwerddon ac yn yr Alban hefyd, ond fe'i ceir yng Nghernyw a Dyfnaint.
Dyma un o lysiau'r afu mwyaf prydferth Mae'r dail tua 0.25 mm gyda dau labed anghyfartal eu maint, gyda phob un yn ddaneddog; maent i'w gweld yn glir trwy chwyddwydr. Mae ei egin gwyrdd, main yn llai na 0.5 mm o led, ac mae'r planhigyn fel pe tai'n ymlusgo ymysg mwsoglau bach.
Yn aml, fe'i ceir ar bridd asidig serth, ymysg gwreiddiau coed, arfordirol.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys turner (enw gwyddonol: Cephaloziella turneri; enw Saesneg: Turner's threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ond yn eithriadol brin: fe'i ceir ar arfordir deheuol Sir Benfro ac un lle yn sir Fynwy. mewn un neu ddau o lefydd mae'n tyfu yn Iwerddon ac yn yr Alban hefyd, ond fe'i ceir yng Nghernyw a Dyfnaint.
Cephaloziella turneri là một loài rêu tản trong họ Cephaloziellaceae. Loài này được (Hook.) K. Müller miêu tả khoa học lần đầu tiên năm 1913.[1]
Cephaloziella turneri là một loài rêu tản trong họ Cephaloziellaceae. Loài này được (Hook.) K. Müller miêu tả khoa học lần đầu tiên năm 1913.