dcsimg

Rhiain y pîn ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera[1][2] yw rhiain y pîn, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy rhiannedd y pîn; yr enw Saesneg yw Pine Beauty, a'r enw gwyddonol yw Panolis flammea.[3] Fe'i ganfyddir mewn fforestydd pîn drwy Ewrop.

 src=
Wyau
 src=
Lindys

32–40 mm ydy lled yr adenydd agored ac fe welir yr oedolyn ar ei adain rhwng Mawrth a Mai. Caiff ei ddenu gan olau a blodau'r helygen.

Mewn rhai amgylchiadau, caiff ei drin fel pla. Mae'n gaeafgysgu fel chwiler.

Cyffredinol

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r rhiain y pîn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

  1. Michael Chinery, 1986
  2. Bernard Skinner, 1984
  3. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Rhiain y pîn: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Noctuidae yn urdd y Lepidoptera yw rhiain y pîn, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy rhiannedd y pîn; yr enw Saesneg yw Pine Beauty, a'r enw gwyddonol yw Panolis flammea. Fe'i ganfyddir mewn fforestydd pîn drwy Ewrop.

 src= Wyau  src= Lindys

32–40 mm ydy lled yr adenydd agored ac fe welir yr oedolyn ar ei adain rhwng Mawrth a Mai. Caiff ei ddenu gan olau a blodau'r helygen.

Mewn rhai amgylchiadau, caiff ei drin fel pla. Mae'n gaeafgysgu fel chwiler.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY