dcsimg

Tylluan frech ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Mae'r Dylluan Frech yn aelod o deulu'r Strigidae, fel y rhan fwyaf o ddylluanod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a de Rwsia.

 src=
Dosbarthiad y Dylluan Frech.

Tylluan ganolig o ran maint yw'r Dylluan Frech, 37–43 cm o hyd a 81–96 cm ar draws yr adenydd. Mae'n byw ar lygod yn bennaf, ond gall ladd anifeiliaid o faint llygod mawr ar adegau. Nid yw'n aderyn mudol ac anaml y gwelir un yn ystod y dydd, gan nad yw'n dod allan i hela nes iddi dywyllu.

Galwad Kewick; 1960au

Ceir y Dylluan Frech mewn coedydd ac mae'n nythu mewn tyllau mewn coed. Pan mae'n nythu'n barod i ymosod ar bobl i amddiffyn y nyth, a gall dynnu gwaed. Dyma'r ddylluan sy'n gwneud y sŵn Tyhwit tyhŵ, ond mewn gwirionedd mae hwn yn gyfuniad o ddwy alwad, Tyhwit gan yr iâr a tyhŵ gan y ceiliog.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY