dcsimg

Telor yr Ardd ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Mae Telor yr Ardd (Sylvia borin) yn aelod o deulu'r Sylviidae ac yn aderyn cyffredin trwy ogledd, canolbarth a rhannau o dde Ewrop a rhan o orllewin Asia.

Mae Telor yr Ardd yn aderyn mudol, sy'n treulio'r gaeaf yng nghanolbarth a de Affrica. Adeiledir y nyth mewn llwyn, fel rheol mewn coedwigoedd lle mae digon o dyfiant isel dan y coed. Mae'n dodwy 3-7 wy.

Nid yw Telor yr Ardd yn aderyn hawdd ei adnabod; mae'n delor gweddol fawr o liw llwydfrown ar y cefn o goleuach oddi tano, heb unrhyw nodwedd amlwg y gellir ei defnyddio i'w adnabod. Pryfed yw ei brif fwyd. Mae'r gân yn debyg i gân y Telor Penddu, ac mae angen gofal i wahaniaethu rhyngddynt.

Mae Telor yr Ardd yn aderyn pur gyffredin yng Nghymru, er nad yw'n adnabyddus iawn. Mae'n cyrraedd yn hwyrach yn y gwanwyn na'r rhan fwyaf o'r teloriaid eraill.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY