Mae'r Fronfraith neu Ceiliog bronfraith (Lladin: Turdus philomelos) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop heblaw am dde Sbaen a Phortiwgal, yn enwedig gan ei fod yn hoff o erddi.
Nid yw'r Fronfraith yn aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Eu prif fwyd yw pryfed, malwod ac aeron. Defnyddir carreg i dorri cregyn y malwod cyn eu bwyta, a gan fod yr aderyn yn aml yn defnyddio'r un garreg bob tro gellir gweld darnau o gregyn ar wasgar o'i chwmpas. Mae'n nythu mewn llwyni fel rheol.
Gellir gwahaniaethu rhwng y Fronfraith a Brych y Coed sy'n aderyn tebyg iawn trwy fod y Fronfraith llai na Brych y Coed ac yn fwy brown ar y pen a'r cefn lle mae Brych y Coed yn fwy llwydfrown. Mae'r gân yn adnabyddus iawn, a gellir ei hadnabod trwy fod yr aderyn yn ail-adrodd pob darn o'r gân nifer o weithiau cyn symud ymlaen i ddarn arall.
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth enw tacson delwedd Brych coesgoch Turdus plumbeus Brych crafog Psophocichla litsitsirupa Brych gwyrddfelyn Turdus olivaceus Brych gyddfwyn y dwyrain Turdus albicollis Brych llygadwyn Jamaica Turdus jamaicensis Brych mawr Turdus fuscater Brych Tickell Turdus unicolor Brych Yemen Turdus menachensis Mwyalch dorchwen Turdus albocinctus Robin gefnwinau Turdus rufopalliatusMae'r Fronfraith neu Ceiliog bronfraith (Lladin: Turdus philomelos) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop heblaw am dde Sbaen a Phortiwgal, yn enwedig gan ei fod yn hoff o erddi.