dcsimg

Cnocell fraith fawr ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell fraith fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau brith mawr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picoides major; yr enw Saesneg arno yw Great spotted woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. major, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Cnocell ganolig o ran maint yw'r Gnocell Fraith Fwyaf, tua 23–26 cm o hyd a 38–44 cm ar draws yr adenydd. Mae'n byw mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a chaeau. Du a gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae gan y ceiliog ddarn coch ar y gwegil tra mae pen yr iar yn ddu a gwyn i gyd. Aderyn ieuanc sydd yn y llun, yn dangos y coch ar dop y ben sy'n nodweddiadol o adar yn eu blwyddyn gyntaf. Gellir gwahaniaethu'r gnocell yma oddi wrth y Gnocell Fraith Leiaf trwy fod gan y Gnocell Fraith Fwyaf goch ar ran gefn y bol, sy'n absennol yn y Gnocell Fraith Leiaf, a'r gwahaniaeth mawr mewn maint.

Yn enwedig yn y gwanwyn, gellir clywed y cnocell yma yn "drwmio", sef curo coeden yn gyflym a'i big i wneud sŵn y gellir ei glywed am gryn bellter. Mae'n byw ar bryfed sydd yn tyllu i mewn i goed fel rheol, ond gall hefyd ddefnyddio ei big nerthol i dorri trwy bren i fwyta cywion adar eraill sy'n nythu mewn tyllau mewn coed.

I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal. Y gnocell yma yw'r gnocell fwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Teulu

Mae'r cnocell fraith fawr yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd Cnocell ddu Dryocopus martius Cnocell Folwen Dryocopus javensis
WhiteBelliedWoodpecker.JPG
Cnocell Gila Melanerpes uropygialis
Gila Woodpecker.jpeg
Cnocell gorun coch Melanerpes rubricapillus
Melanerpes rubricapillus.jpeg
Cnocell gudynfelen Melanerpes cruentatus
Melanerpes cruentatus Yellow-tufted Woodpecker.jpg
Cnocell Magellan Campephilus magellanicus
Magellanic Woodpecker Male (Campephilus magellanicus).jpg
Cnocell y mês Melanerpes formicivorus
Melanerpes formicivorus -San Luis Obispo, California, USA -male-8.jpg
Cnocellan goch Sasia abnormis
BirdsAsiaJohnGoVIGoul 0172.jpg
Corgnocell Temminck Yungipicus temminckii
Male of Dendrocopos temminckii.JPG
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Cnocell fraith fawr: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cnocell fraith fawr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cnocellau brith mawr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Picoides major; yr enw Saesneg arno yw Great spotted woodpecker. Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes. Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. major, sef enw'r rhywogaeth. Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.