Yr arthropodau yw'r ffylwm mwyaf o anifeiliaid. Mae mwy na miliwn o rywogaethau gan gynnwys pryfed, cramenogion, corynnod, cantroediaid a miltroediaid. Mae gan arthropodau sgerbyd allanol caled, corff cylchrannog a choesau cymalog.