dcsimg

Gwyddfid ( gallois )

fourni par wikipedia CY

Prysgwydden gordeddog yn nheulu'r Caprifoliaceae yw'r gwyddfid neu laeth y gaseg (enw unigol ac enw lluosog) sy'n gynhenid i hemisffêr y gogledd. Mae'n blanhigyn dringol ac ymnyddol o deulu’r Caprifoliaceæ ac mae'n tyfu mewn llwyni a gwrychoedd.[1] Melyn-pinc ydy lliw'r blodau sy'n eitha persawrus ac ar ffurf utgyrn; mae'r aeron a dyf yn yr hydref o liw coch. Mae tua 180 o rywogaethau gwahanol ac mae 20 ohonynt yn gynhenid i Ewrop. Adwaenir y gwyddfid hefyd fel llaeth y gaseg, ymysg nifer o enwau gwahanol. Y math mwyaf cyffredin yw'r Lonicera periclymenum.

 src=
Blodau'r gwyddfid ger Heolgerrig, Merthyr Tudful; Medi 2017 (llun gan Morgan Owen).

Mae'r dail mewn parau, yn syml ac yn hirgrwn. Yn ôl y naturiaethwraig Bethan Wyn Jones: Mae arogl y gwyddfid yn drymach ar awel yr hwyr am mai gwyfynod yn bennaf sy'n peillio'r gwyddfid, ac er mwyn denu'r gwyfynod hynny i beillio'r blodau mae'r gwyddfid yn rhyddhau perarogl.[2]

Cyfeirir at "laeth-y-gaseg" gan Dafydd Rowlands yn ei gerdd Dangosaf iti Lendid.[3]

Gerddi

Mae'r gwyddfid yn blanhigyn cyffredin mewn gerddi - yn bennaf gan eu bod yn gorchuddio hen waliau ac oherwydd lliw ac arogl y blodau. Mae'r mathau sy'n dringo'n hoffi gwreiddio yn y cysgod. Gallant ordyfu, gan dyfu'n wyllt, os nad ydynt yn cael eu tocio.[4]

 src=
Blodau

Enwau

Yn ddiweddar defnyddiwyd yr enw fel enw ar ferch.

Cyfeiriadau

  1. Ngeiriadur Prifysgol Cymru
  2. Teitl: Arogleuon I Ddenu'r Cler; Gwefan y Daily Post; adalwyd 30 Mehefin 2014.
  3. Gwefan Bitsesixe; BBC; adalwyd 30 Mehefin 2014.
  4. RHS A-Z encyclopedia of garden plants. United Kingdom: Dorling Kindersley. 2008. p. 1136. ISBN 1405332964.
licence
cc-by-sa-3.0
droit d’auteur
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visiter la source
site partenaire
wikipedia CY

Gwyddfid: Brief Summary ( gallois )

fourni par wikipedia CY

Prysgwydden gordeddog yn nheulu'r Caprifoliaceae yw'r gwyddfid neu laeth y gaseg (enw unigol ac enw lluosog) sy'n gynhenid i hemisffêr y gogledd. Mae'n blanhigyn dringol ac ymnyddol o deulu’r Caprifoliaceæ ac mae'n tyfu mewn llwyni a gwrychoedd. Melyn-pinc ydy lliw'r blodau sy'n eitha persawrus ac ar ffurf utgyrn; mae'r aeron a dyf yn yr hydref o liw coch. Mae tua 180 o rywogaethau gwahanol ac mae 20 ohonynt yn gynhenid i Ewrop. Adwaenir y gwyddfid hefyd fel llaeth y gaseg, ymysg nifer o enwau gwahanol. Y math mwyaf cyffredin yw'r Lonicera periclymenum.

 src= Blodau'r gwyddfid ger Heolgerrig, Merthyr Tudful; Medi 2017 (llun gan Morgan Owen).

Mae'r dail mewn parau, yn syml ac yn hirgrwn. Yn ôl y naturiaethwraig Bethan Wyn Jones: Mae arogl y gwyddfid yn drymach ar awel yr hwyr am mai gwyfynod yn bennaf sy'n peillio'r gwyddfid, ac er mwyn denu'r gwyfynod hynny i beillio'r blodau mae'r gwyddfid yn rhyddhau perarogl.

Cyfeirir at "laeth-y-gaseg" gan Dafydd Rowlands yn ei gerdd Dangosaf iti Lendid.

licence
cc-by-sa-3.0
droit d’auteur
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visiter la source
site partenaire
wikipedia CY