Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwibiwr yr hocys, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwibwyr yr hocys; yr enw Saesneg yw Mallow Skipper, a'r enw gwyddonol yw Carcharodus alceae.[1][2]
Fe'i gwelir yn ne a chanol Ewrop, gogledd Affrica a chanol Asia. Mae'n hoff iawn o greigiau cynnes i orffwys arno. Caiff ei neithdar o blanhigion llysieuog.
Mae'n dodwy ei wyau ar y planhigyn Malva (hocys) ac ar Althaea officinalis (hocysen y morfa).
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae gwibiwr yr hocys yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwibiwr yr hocys, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwibwyr yr hocys; yr enw Saesneg yw Mallow Skipper, a'r enw gwyddonol yw Carcharodus alceae.