Glöyn byw lliwgar o deulu'r Nymphalidae yw'r Trilliw Bach neu Iâr Fach Amryliw (Lladin: Aglais urticae; Saesneg: Small Tortoiseshell). Mae'n gyffredin mewn llawer o gynefinoedd ar draws Ewrasia. Mae'r oedolyn rhwng 45 a 62 mm ar draws yr adenydd. Mae ei uwchadenydd yn oren gyda marciau du a melyn a rhes o smotiau glas ger yr ymyl. Mae'r isadenydd yn frown gan fwyaf. Mae lliw'r lindysyn yn amrywio o ddu i felyn. Mae'r lindys ifainc yn byw mewn grwpiau mewn gwe, yn bwydo ar ddail danadl poethion neu ddanadl bach.
Mae ei dymor fel oedolyn ymhlith yr hwyaf o holl loynnod byw Ewrop: gan ymestyn o'r gwanwyn cynnar hyd at ddiwedd yr hydref. Mae'n gaeafgysgu fel oedolyn, sy'n eithriadol o brin. Yng ngwledydd deheuol ei diriogaeth ceir dwy genhedlaeth.[1]
Trilliw Bach (oedolyn) ym mharc Kätcheslachpark, Frankfurt, yr Almaen.
Siani flewog ifanc
Y cwd grisal (chwiler) ar fin deor
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r Trilliw Bach yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Lindysyn