Aderyn y môr sy'n debyg i bengwin yw Gwylog (neu Heligog). Mae'n nythu ar glogwyni ac ynysoedd ar arfordiroedd Gogledd Cefnfor Iwerydd a Gogledd Cefnfor Tawel. Mae'n bwydo ar bysgod a chramenogion.