dcsimg

Gylflys chwyddedig ( Galês )

fornecido por wikipedia CY

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Gylflys chwyddedig (enw gwyddonol: Gymnocolea inflata; enw Saesneg: Iinflated notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Caiff ei gymysgu'n aml gyda Hiclys y gors, sy'n eitha tebyg.

Cynefin

Gall y Gylflys chwyddedig (G. inflata) orchuddio ardaloedd eang o fawn moel, ac mae'n ffafrio mawndiroedd a rhostiroedd wedi'u pori. Mae'n nodweddiadol o leoedd llaith, asidig, fel rhostiroedd gwlyb, corsydd ac ymylon pyllau a gall dyfu ar siâl, graean neu dywod, yn ogystal â rhwng creigiau.

Llysiau'r afu

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llysiau'r afu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Cyfeiriadau

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
licença
cc-by-sa-3.0
direitos autorais
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visite a fonte
site do parceiro
wikipedia CY

Gylflys chwyddedig: Brief Summary ( Galês )