Anifail di-asgwrn-cefn gydag wyth o goesau yw corryn (hefyd: pryf cop, copyn). Mae dros 37,000 o rywogaethau. Maen nhw'n cynhyrchu sidan ac mae llawer o rywogaethau'n nyddu gweoedd i ddal pryfed.
Y We
Gelwir gwe sydd yn gorchuddio porfa yn 'Drifl yr ych'.[1]
Cyfeiriadau
-
↑ Sylw gan Ieuan Roberts, Llanbedr Pont Steffan ond o Edern, Llŷn yn wreiddiol, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 21 (llun gan Alun Williams)[1]