dcsimg

Ehedydd ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src=
Alauda arvensis

Mae'r Ehedydd (Alauda arvensis) yn aelod o deulu'r Alaudidae, yr ehedyddion. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia yn ogystal a mynyddoedd Gogledd Affrica.[1] Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Passeriformes.[2][3]

Nid yw'r Ehedydd yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, heblaw bod yr adar sy'n nythu yn y rhannau mwyaf gogleddol yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yn y dwyrain mae'n mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf.

Mae'r Ehedydd yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, er ei fod hefyd yn canu oddi ar ben polyn neu unrhyw safle addas arall yn ogystal. Pan nad yw'n canu nid yw mor hawdd ei adnabod. Mae'n aderyn brown gyda bol mwy gwelw, 16–18 cm o hyd a gyda plu hirach ar y pen. Gall yr aderyn godi'r plu yma. Wrth iddo hedfan gellir gweld gwyn ar ochr y gynffon ac ar ran gefn yr adenydd.

Mae'n nythu ar dir agored, rhostir neu gaeau. Adeiledir y nyth ar lawr ac mae'n dodwy 3-6 wy. Hadau yw ei brif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.

Mae'r Ehedydd yn aderyn cyffredin trwy Gymru, hyd yn oed yn uchel yn y mynyddoedd, ond mae ei nifer wedi gostwng yn yr 50 mlynedd diwethaf oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.

Cyfeiriadau chwedlonol a llenyddol

Yn ôl Trioedd Ynys Prydain roedd Brwydr Arfderydd yn un o 'Dri Ofergad Ynys Prydain'. Mae'r triawd yn dweud mai "o achaws nyth yr ychedydd" (o achos nyth yr ehedydd) yr ymladdwyd y frwydr. Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod hyn yn gyfeiriad at ymrafael yn llys Caerlaverock (tref yn Swydd Dumfries yn yr Alban heddiw), sef "Caer yr Ehedydd" ar lannau Moryd Solway.

Dywedir i gân yr Ehedydd ysbrydoli Dafydd y Garreg Wen i gyfansoddi'r alaw "Codiad yr Ehedydd". Ceir hefyd yr hen bennill "Marwnad yr Ehedydd":

Mi a glywais fod yr hedydd
Wedi marw ar y mynydd;
Pe gwyddwn i mai gwir y geirie,
Awn â gyr o wŷr ac arfe
I gyrchu corff yr hedydd adre.

Awgrymwyd y gallai'r ehedydd yma fod yn gyfeiriad at Owain Glyn Dŵr.[4]

Rhywogaethau

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd Ehedydd Angola Mirafra angolensis Ehedydd Ash Mirafra ashi Ehedydd coch y Gogledd Mirafra rufa Ehedydd Dupont Chersophilus duponti
Chersophilus duponti.jpg
Ehedydd gwargoch Mirafra africana
Rufous-naped Lark (Mirafra africana), adult.jpg
Ehedydd Kordofan Mirafra cordofanica
MirafraCordonfanicaWolf.jpg
Ehedydd pêr Mirafra cheniana
Mirafra cheniana cheniana 1838.jpg
Ehedydd Somalia Mirafra somalica
CerthilaudaSomalicaGoodchild.jpg
Llwyn-ehedydd adeingoch Asia Mirafra assamica
Bengal Bushlark I IMG 4989.jpg
Llwyn-ehedydd dwyreiniol Mirafra javanica
Australasianbushlark.jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Teuluoedd

Adar AsgelldroedAdar DailAdar DeildyAdar DreingwtAdar DrudwyAdar FfrigadAdar GwrychogAdar HaulAdar MorgrugAdar OlewAdar ParadwysAdar PobtyAdar TagellogAdar TelynAdar TomenAdar TrofannolAdar y CwilsAlbatrosiaidApostolionAsitïodBarbedauBrainBrain MoelBreisionBrenhinoeddBrychionBwlbwliaidCagwodCarfilodCasowarïaidCeiliogod y WaunCeinddrywodChwibanwyrCiconiaidCiconiaid Pig EsgidCigfachwyrCigyddionCiwïodCnocellodCoblynnodCoblynnod CoedCocatwodCogauCog-GigyddionColïodColomennodCopogionCopogion CoedCornbigauCorsoflieirCotingaodCrehyrodCrehyrod yr HaulCropwyrCrwydriaid y MalîCwrasowiaidCwroliaidCwtiaidCwyrbigau

SeriemaidCynffonau SidanDelorion CnauDreinbigauDringhedyddionDringwyr CoedDringwyr y PhilipinauDrongoaidDrywodDrywod Seland NewyddEhedyddionEmiwiaidEryrodEstrysiaidEurynnodFangáidFfesantodFflamingosFireodFwlturiaid y Byd NewyddGarannodGiachod AmryliwGïachod yr Hadau

GolfanodGwanwyrGwatwarwyrGweilch PysgodGweinbigauGwenoliaidGwenynysorionGwyachodGwybed-DdaliwyrGwybedogionGwybedysyddionGwylanodGylfindroeonHebogiaidHelyddion CoedHercwyrHirgoesauHirgoesau CrymanbigHoatsiniaidHuganodHwyaidIbisiaidIeir y DiffeithwchJacamarodJasanaodLlwydiaidLlydanbigauLlygadwynionLlygaid-DagellLlysdorwyrLorïaidManacinodMeinbigauMel-Gogau

Mêl-Gropwyr HawaiiMelysorionMesîtauMotmotiaidMulfrainParotiaidPedrynnodPedrynnodPedrynnod PlymioPelicanodPengwiniaidPennau MorthwylPibyddionPigwyr BlodauPincodPiod MôrPitaodPotwaidPreblynnodPrysgadarPysgotwyrRheaodRhedwyrRhedwyrRhedwyr y CrancodRhegennodRhesogion y PalmwyddRholyddionRholyddion DaearRobinod Awstralia

SeriemaidSgimwyrSgiwennodSgrechwyrSïednodSiglennodTapacwlosTeloriaidTelorion y Byd NewyddTeyrn-WybedogionTinamwaidTitwodTitwod CynffonhirTitwod PendilTodiaidTresglodTrochwyrTrochyddionTroellwyrTroellwyr LlydanbigTrogoniaidTrympedwyrTwcaniaidTwinc BananaTwracoaidTylluan-DroellwyrTylluanodTylluanod Gwynion

Cyfeiriadau

  1. Bywiadur Llên Natur / Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 3 Mehefin 2016
  2. del Hoyo, J.; Elliot, A. & Christie D. (gol.). (2007). Handbook of the Birds of the World. ISBN 978-84-96553-42-2
  3. ICZN 1999. International Code of Zoological Nomenclature. 4ydd rhifyn. The International Trust for Zoological Nomenclature, Llundain. 306 tt.
  4. E. Wyn James: Ballad Implosions and Welsh folk stanzas
license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY

Ehedydd: Brief Summary ( Welsh )

provided by wikipedia CY
 src= Alauda arvensis

Mae'r Ehedydd (Alauda arvensis) yn aelod o deulu'r Alaudidae, yr ehedyddion. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia yn ogystal a mynyddoedd Gogledd Affrica. Mae'r teulu hwn o adar o fewn yr urdd Passeriformes.

Nid yw'r Ehedydd yn aderyn mudol yn y gorllewin fel rheol, heblaw bod yr adar sy'n nythu yn y rhannau mwyaf gogleddol yn symud tua'r de yn y gaeaf, ond yn y dwyrain mae'n mudo ymhellach i'r de yn y gaeaf.

Mae'r Ehedydd yn fwyaf adnabyddus oherwydd ei gân, ac yn aml mae'n codi yn uchel i'r awyr dan ganu, er ei fod hefyd yn canu oddi ar ben polyn neu unrhyw safle addas arall yn ogystal. Pan nad yw'n canu nid yw mor hawdd ei adnabod. Mae'n aderyn brown gyda bol mwy gwelw, 16–18 cm o hyd a gyda plu hirach ar y pen. Gall yr aderyn godi'r plu yma. Wrth iddo hedfan gellir gweld gwyn ar ochr y gynffon ac ar ran gefn yr adenydd.

Mae'n nythu ar dir agored, rhostir neu gaeau. Adeiledir y nyth ar lawr ac mae'n dodwy 3-6 wy. Hadau yw ei brif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.

Mae'r Ehedydd yn aderyn cyffredin trwy Gymru, hyd yn oed yn uchel yn y mynyddoedd, ond mae ei nifer wedi gostwng yn yr 50 mlynedd diwethaf oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.

license
cc-by-sa-3.0
copyright
Awduron a golygyddion Wikipedia
original
visit source
partner site
wikipedia CY